Latest News
Yma fe gewch chi'r newyddion diweddaraf gyda'r hyn sy'n digwydd yn Ysgol Glan Morfa.
Keep up to date with all the latest news happening in school at the moment.
-
Cardiau Nadolig / Christmas Cards
Fri 27 Nov 2020Annwyl Rieni a Gwarcheidwaid /Dear Parents and Guardians,
Yr adeg hon o'r flwyddyn, mae rhai plant yn mwynhau ysgrifennu cardiau Nadolig ar gyfer eu ffrindiau. Oherwydd cyfyngiadau Covid-19 eleni byddwn yn gwneud pethau ychydig yn wahanol.
Ni fydd hi'n bosib i chi ddod â chardiau Nadolig i'r ysgol a'u dosbarthu fel yr arfer felly rydym wedi penderfynu, os yw plentyn eisiau rhoi cardiau gofynnwn iddynt wneud un cerdyn arbennig ar gyfer eu dosbarth cyfan ac mi fydd y cerdyn hwn yn cael ei arddangos yn eu hystafell ddosbarth i bawb i ddarllen.
Efallai yr hoffai plant wneud eu cerdyn yn hytrach na phrynu un felly isod mae rhai geirfa y gellid eu defnyddio wrth greu y cerdyn.
•I ddosbarth . . . .
•Oddi wrth. . . . . . .
•Nadolig Llawen
•Cyfarchion yr Wyl
•Nadolig llawen a Blwyddyn Newydd Da
This time of year, some children enjoy writing Christmas cards for their class mates and friends. Due to Covid-19 restrictions this year we will do things a little different.
We are unable to have Christmas cards brought into school and distributed by children so have decided to ask, that if a child wants to give cards that they write or make one special card for their whole class which can then be displayed in their classroom for all to read.
Children may wish to make their card rather than buy one so below are some phases that could be used in their cards:
•I Ddosbarth (To Class . . . )
•Oddi wrth . . . . . . . (from)
•Nadolig Llawen (Merry Christmas)
•Nadolig llawen a Blwyddyn Newydd Dda (Merry Christmas and a Happy New Year)
Dymuniadau gorau / Best wishes
Mr Tomos
Pennaeth
-
Dysgu Awyr Agored / Outdoor Learning
Thu 26 Nov 2020Cliciwch ar y linc isod i weld y gwaith gwych yr ydym wedi ei wneud hyd yn hyn i ddatblygu dysgu awyr agored a gwella ein darpariaeth allanol.
Click on the link below to see the fantastic work we have done so far to develop our outdoor learning and improving our outdoor areas.
Diolch / Thank you
Mr Tomos
https://app.trilbytv.co.uk/public/view/492e1244-6dd3-4af7-bbeb-dad09815d34b
-
Y Feithrin / Our Nursery
Thu 26 Nov 2020Cliciwch ar y linc isod i weld beth sy'n digwydd ein Meithrin yn ddyddiol a pham ei fod yn bwysig iddynt fynychu yn ddyddiol.
Click on the link below to see what happens in our Nursery every day and why it's vitally important to attend every day.
Diolch / Thank you
https://app.trilbytv.co.uk/public/view/5859be7e-a881-4abc-892e-b20a100a3f6f
-
Diwrnodau HMS / INSET Days
Tue 24 Nov 2020Annwyl Rieni / Gwarcheidwaid,
Eleni mae gennym ni 6 diwrnod Hyfforddiant Mewn Swydd.
Dyma'r dyddiadau isod.
- Tachwedd 13eg, 2020
- Chwefror 1af, 2021
- Mawrth 26ain (Clwstwr Bro Edern)
- Gorffennaf 19eg a 20fed, 2021 (Bydd y tymor yn gorffen i'r plant ar ddydd Gwener, Gorffennaf 16eg)
Byddwn yn cymryd UN diwrnod arall yn Nhymor yr Haf. Diwrnod i'w gadarnhau yn Nhymor y Gwanwyn.
Diolch i chi gyd,
Mr Meilir Tomos
Pennaeth
Dear Parents and Guardians,
This year we have 6 INSET days (no school for children). They are;
- November 13th, 2020
- February 1st, 2021
- March 26th, 2021 (All Bro Edern Cluster)
- July 19th and 20th, 2021 (Last day of term will be July 16th)
We will take ONE more day in the Summer term. You will be notified of that date during the Spring term.
Thank you,
Mr Meilir Tomos
Headteacher
-
Gwisgo gorchuddion wyneb / Wearing of face coverings
Tue 24 Nov 202023.11.20
Annwyl Rieni a gwarcheidwaid, / Dear Parents and Carers,
Gwisgo gorchuddion wyneb / Wearing of face coverings
Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru’r canllawiau ar ddefnyddio gorchuddion wyneb mewn ysgolion.
Er mwyn lleihau'r risg o drosglwyddo ymhlith rhieni a pherthnasau, gwisgwch orchudd wyneb wrth ymweld â'r ysgol, ac mewn mannau danfon a chasglu. Bydd cynnal pellter cymdeithasol clir wrth gatiau'r ysgol hefyd yn lleihau risg ac yn gosod esiampl dda i ddisgyblion.
Os oes gennych blentyn oedran ysgol uwchradd, byddwch yn ymwybodol y dylai gorchuddion wyneb bellach gael eu gwisgo gan ddisgyblion blwyddyn 7 a hŷn ym mhob ardal y tu allan i'r ystafell ddosbarth ac ar gludiant penodedig i'r ysgol ar gyfer blwyddyn 7 a hŷn.
Dilynwch y canllawiau hyn ac anogwch eich plentyn i ddilyn ei un hwythau hefyd.
Ynghyd â golchi dwylo/diheintio rheolaidd a chadw pellter cymdeithasol, bydd hyn yn lleihau'r risg o ledaenu COVID-19 yn yr ysgol cyn belled ag y bo modd. Maent wedi’i cryfhau i'ch cadw chi a'ch teulu mor ddiogel â phosibl. Maent yn seiliedig ar gyngor newydd gan y Grŵp Cyngor Technegol Llywodraeth Cymru, wrth i ni ddysgu mwy am y ffordd y caiff COVID-19 ei drosglwyddo.
Diolch i chi am eich help i wneud popeth y gallwn – gyda'n gilydd – i gadw ein hunain ac eraill yn ddiogel.
The Welsh Government has updated its guidance on the use of face coverings in schools.
To reduce the risk of transmission amongst parents and relatives, please wear masks when visiting school, and at drop-off and collection areas.
Maintaining clear social distance at the school gates will also reduce risk and set a good example to pupils.
If you have a secondary school aged child, be aware that face coverings should now be worn by year 7 and above pupils in all areas outside the classroom and be worn on dedicated school transport for year 7 and up.
Please follow these guidelines and encourage your child to follow theirs too.
Along with regular hand washing/sanitising and social distancing, this will reduce the risk of spreading COVID-19 at school as far as possible.
They have been made stronger to keep you and your families as safe as possible. They are based on new advice from Welsh Government’s Technical Advisory Group, as we learn more about the way COVID-19 is transmitted.
Thank you for your help in doing all we can – together - to keep ourselves and others safe.
Yn gywir,
Mr Tomos
Pennaeth
-
Trefniadau'r Nadolig / Christmas Arrangements
Wed 11 Nov 2020Annwyl Rieni a Gwarcheidwaid
Eleni oherwydd rhesymau diogelwch sydd ynghlwm a Covid-19 mi fydd hi’n amhosibl i ni allu cynnal ein Cyngherddau Nadolig arferol ar safle’r ysgol. Fodd bynnag, ni all pandemig byd eang ein rhwystro rhag dod ag ysbryd y Nadolig i’ch cartrefi ac felly rydym wedi trefnu fod pob dosbarth am ffilmio eitem Nadoligaidd i chi ac y byddwch yn derbyn y rhain drwy ffilm fer ar SeeSaw (Cyfnod Sylfaen) a thrwy ein gwefan (Yr Adran Iau).
Dros yr wythnosau nesaf mae’n debygol iawn y bydd ein athrawon ni yn cysylltu gyda chi ac yn gofyn i chi am wahanol bethau ar gyfer ffilmio e.e. gwisgoedd arbennig. Fe fydd y ffilmiau hyn yn cael eu rhannu gyda chi cyn diwedd y tymor ac yn rhywbeth i chi ei drysori.
Os nad ydych am eich plentyn fod yn rhan o’r ffilmiau Nadolig i roi gwybod i’r ysgol cyn gynted a sy’n bosibl.
Byddwn hefyd yn dathlu diwrnod siwmperi Nadolig ar ddydd Gwener, Rhagfyr 11eg. Byddwn yn gofyn i bawb gyfrannu £1 a bydd yr arian hyn yn mynd tuag at elusen “Achub y Plant”. Rydym hefyd yn gobeithio gallu trefnu ein cinio Nadolig ar ddydd Iau, Rhagfyr 17eg. Bydd mwy o fanylion i ddilyn.
Diolch i chi gyd am eich cydweithrediad ac am eich cefnogaeth i’r ysgol.
Dear Parents and Guardians,
This year due to safety reasons associated with Covid-19, it will not be possible for us to hold our usual Christmas Concerts on the school site. However, a global pandemic cannot stop us bringing the Christmas spirit to your homes so we have arranged for every class to film a Christmas item for you and you will receive these through a short film on SeeSaw (Foundation Phase) and through our website (Junior Department).
Over the next few weeks it is very likely that our teachers will contact you and ask you about different things for the filming i.e. costumes etc. These films will be shared with you before the end of term and something for you to treasure.
If you don't want your child to be part of the Christmas films please let the school know as soon as possible.
We will also be celebrating Christmas jumper’s day on Friday, December 11th. We will ask everyone to donate £1 and this money will go towards the charity "Save the Children". We also hope to arrange our Christmas dinner on Thursday, December 17th. We will send out more information about this as soon as possible.
Thank you all for your co-operation and for your support to the school.
Dymuniadau gorau,
Mr Tomos
Pennaeth
-
Llygredd Aer / Air Pollution: 09/11/2020
Mon 09 Nov 2020Ysgol Glan Morfa: Llygredd Aer / Air Pollution Diolch i chi am eich cefnogaeth. Byddwn yn mynd nôl i drefniadaeth Covid_19 yfory. Thanks for your support today.We will returning to the Covid_19 arrangements tomorrow.
Annwyl Rieni,
Rydym wedi derbyn newyddion gan swyddogion iechyd a diogelwch y sir i beidio â chaniatáu i'r plant fynd allan yn ystod y dydd oherwydd llygredd aer sy'n deillio o'r tan neithiwr mewn garej teiars cyfagos. Mae'r sir wedi wedi dweud y bydd hyn yn disodli ein protocol Covid-19 am y tro ble mae disgwyl i ffenestri a drysau fod ar agor drwy'r amser. Byddwn yn eich diweddaru pan fyddwn yn cael mwy o fanylion.
Yn anffodus drws nesaf i'r garej roedd warws YC Sports ac cafodd nifer o'r stoc ei llosgi sy'n golygu y bydd mwy o amser aros am wisgoedd ysgol na'r arfer. Fodd bynnag mae YC Sports wedi gofyn i chi barhau i anfon eich archebion a byddent yn gwneud popeth yn ei gallu i gael eich archebion i chi cyn gynted a sy'n bosibl.
Diolch i chi gyd am eich cefnogaeth.
Mr Meilir Tomos
Pennaeth
Dear Parents,
We have received news from Cardiff council's health and safety officials to not allow the children to go outside during the day because of air pollution resulting from last night's fire at a nearby tyre garage. The officials have informed us that this will replace our Covid-19 protocol for the time being where windows and doors are expected to be open at all times. We'll update you when we get more details. This is a precautionary measure.It has also come to our attention that next door to the garage was the YC Sports warehouse and a lot of the stock was burnt which means there will be more waiting time for school uniforms than usual. However YC Sports has asked you to continue sending your orders and they will do everything possible to get you your orders as quickly as possible.
Thank you all for your support.Mr Meilir Tomos
Headteacher