Trefniadau'r Nadolig / Christmas Arrangements
Annwyl Rieni a Gwarcheidwaid
Eleni oherwydd rhesymau diogelwch sydd ynghlwm a Covid-19 mi fydd hi’n amhosibl i ni allu cynnal ein Cyngherddau Nadolig arferol ar safle’r ysgol. Fodd bynnag, ni all pandemig byd eang ein rhwystro rhag dod ag ysbryd y Nadolig i’ch cartrefi ac felly rydym wedi trefnu fod pob dosbarth am ffilmio eitem Nadoligaidd i chi ac y byddwch yn derbyn y rhain drwy ffilm fer ar SeeSaw (Cyfnod Sylfaen) a thrwy ein gwefan (Yr Adran Iau).
Dros yr wythnosau nesaf mae’n debygol iawn y bydd ein athrawon ni yn cysylltu gyda chi ac yn gofyn i chi am wahanol bethau ar gyfer ffilmio e.e. gwisgoedd arbennig. Fe fydd y ffilmiau hyn yn cael eu rhannu gyda chi cyn diwedd y tymor ac yn rhywbeth i chi ei drysori.
Os nad ydych am eich plentyn fod yn rhan o’r ffilmiau Nadolig i roi gwybod i’r ysgol cyn gynted a sy’n bosibl.
Byddwn hefyd yn dathlu diwrnod siwmperi Nadolig ar ddydd Gwener, Rhagfyr 11eg. Byddwn yn gofyn i bawb gyfrannu £1 a bydd yr arian hyn yn mynd tuag at elusen “Achub y Plant”. Rydym hefyd yn gobeithio gallu trefnu ein cinio Nadolig ar ddydd Iau, Rhagfyr 17eg. Bydd mwy o fanylion i ddilyn.
Diolch i chi gyd am eich cydweithrediad ac am eich cefnogaeth i’r ysgol.
Dear Parents and Guardians,
This year due to safety reasons associated with Covid-19, it will not be possible for us to hold our usual Christmas Concerts on the school site. However, a global pandemic cannot stop us bringing the Christmas spirit to your homes so we have arranged for every class to film a Christmas item for you and you will receive these through a short film on SeeSaw (Foundation Phase) and through our website (Junior Department).
Over the next few weeks it is very likely that our teachers will contact you and ask you about different things for the filming i.e. costumes etc. These films will be shared with you before the end of term and something for you to treasure.
If you don't want your child to be part of the Christmas films please let the school know as soon as possible.
We will also be celebrating Christmas jumper’s day on Friday, December 11th. We will ask everyone to donate £1 and this money will go towards the charity "Save the Children". We also hope to arrange our Christmas dinner on Thursday, December 17th. We will send out more information about this as soon as possible.
Thank you all for your co-operation and for your support to the school.
Dymuniadau gorau,
Mr Tomos
Pennaeth