Latest News
Yma fe gewch chi'r newyddion diweddaraf gyda'r hyn sy'n digwydd yn Ysgol Glan Morfa.
Keep up to date with all the latest news happening in school at the moment.
-
Achosion Positif Covid-19 / Positive Covid-19 Cases
Mon 29 Nov 2021Annwyl Rieni a Gwarcheidwaid,
Gallwn gadarnhau fod achos positif yn nosbarth Mabon - Dosbarth Meithrin Mrs Fish (Sesiwn Bore) ac yn Nosbarth Arthur - Dosbarth Miss Lewis (Blwyddyn 1). Bydd y gwasanaeth tracio, olrhain a diogelu yn cysylltu gyda chi os bydd eich plentyn yn cael ei adnabod fel cyswllt agos. Gofynnwn i chi gadw golwg agos ar eich plentyn dros y 10 diwrnod nesaf ac hysbysu'r ysgol a threfnu prawf PCR os ydy eich plentyn yn datblygu unrhyw symptomau.
Diolch i chi gyd,
Mr M Tomos
Pennaeth
Dear Parents and Guardians,
We can confirm that there is a positive case of Covid-19 in Dosbarth Mabon - Mrs Fish's class (Morning Nursery) and in Dosbarth Arthur - Miss Lewis's class (Years 1). The track, trace and protect team will contact you if your child is identified as a close contact. Please keep a close eye on your child over the next 10 days and keep the school informed and arrange a PCR test if your child develops any symptoms.
Thank you,
Mr M Tomos
Headteacher
-
Raffl Nadolig / Christmas Raffle
Fri 26 Nov 2021 -
Nadolig 2021 / Christmas 2021
Wed 24 Nov 2021Annwyl Rieni a Gwarcheidwaid,
Mae'n bleser gen i gyhoeddi ein rhaglen o weithgareddau dros y Nadolig. Rydym wedi sicrhau fod pob dosbarth yn cael profiadau cyfoethog dros yr ŵyl a hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i fy staff am eu gwaith yn trefnu.
Rydym yn aros i glywed gan Gyngor Caerdydd am drefniadau ein cinio Nadolig. Unwaith y gwnaf glywed mi gysylltaf gyda chi ar unwaith.
Diolch i chi gyd,
Mr M Tomos
Pennaeth
Dear Parents and Guardians,
I am delighted to announce our program of activities over the Christmas period. We have ensured that all classes have enriching experiences over the festive period and I would like to take this opportunity to thank my staff for their work in organising it all.
We are waiting to hear from Cardiff Council about our Christmas lunch arrangements. Once I hear anything I will contact you immediately.
Thank you,
Mr M Tomos
Headteacher
-
Plant Mewn Angen / Children in Need
Thu 18 Nov 2021Annwyl Rieni a Gwarcheidwaid,
Cofiwch yfory ei bod hi yn ddiwrnod plant mewn angen. Y thema eleni yw "FFAB-IW-LYS" a gofynnwn i'r plant wisgo dillad i adlewyrchu hyn! Cofiwch gyfrannu £1 tuag at yr achos drwy ParentPay.
Diolch i chi gyd.
Dear Parents and Guardians,
Remember tomorrow it's Children in Need day. The theme this year is "FAB-UL-OUS" and we ask our pupils to wear something to reflect this theme. Remember to donate £1 towards the cause through ParentPay.
Thank you
-
Cyngherddau Nadolig / Christmas Concerts
Thu 18 Nov 2021Annwyl Rieni a Gwarcheidwaid,
Yn anffodus oherwydd y cyfyngiadau sydd ar ysgolion rydym ni eto yn yr un sefyllfa eleni o ran gallu gwahodd rhieni i mewn i’r ysgol i weld ein cyngherddau Nadolig. Ar hyn o bryd mae’r disgyblion wrthi’n brysur yn ymarfer a pharatoi ar gyfer y cyngherddau ac mi fydd yr athrawon mewn cyswllt gyda chi er mwyn trefnu gwisgoedd ac ati.
O ganlyniad i’r cyfyngiadau hyn ac ein dyletswydd i gadw ein disgyblion a theuluoedd yn ddiogel mi fydd ein cyngherddau eleni yn cael eu recordio ar eich cyfer. Mi fyddech yn derbyn ffilmiau yn ystod wythnos olaf y tymor.
Yn ogystal er mwyn sicrhau fod ein disgyblion yn cael profiadau arbennig dros yr ŵyl mae’r athrawon yn trefnu nifer o ddigwyddiadau/ymweliadau cyffrous i ddathlu’r Nadolig eleni. Mi fyddaf yn eich hysbysu o’r holl ddigwyddiadau/ymweliadau yn ystod yr wythnosau nesaf.
Diolch i chi gyd am eich cefnogaeth,
Mr M Tomos
Pennaeth
Dear Parents and Guardians,
Unfortunately due to the restrictions placed on schools we are again in the same position this year in terms of being able to invite parents into the school to see our Christmas concerts. The pupils are currently busy rehearsing and preparing for their concerts and the teachers will be in contact with you to arrange costumes.
As a result of these restrictions and our duty to keep our pupils and families safe, our concerts this year will be recorded for you. You will receive these films during the last week of term. In addition, we are working hard to ensuring that our pupils have wonderful experiences over the festive period, and the teachers are busy organising a number of exciting events/visits to celebrate Christmas this year. I will keep you informed of all the visits/events in the coming weeks.
Thank you all for your support,
Mr M Tomos
Headteacher
-
Noson Rieni Opsiwn Teams / Parents Evening Teams Option
Tue 16 Nov 2021Annwyl Rieni a Gwarcheidwaid,
Ar gyfer y nosweithiau rhieni rydym yn falch o allu cynnig i chi'r cyfarfod fideo trwy TEAMS. Os ydych eisiau eich cyfarfod drwy MS Teams yna plis gwnewch gais i'r athro dosbarth ar ddiwedd y dydd tra'n casglu eich plentyn neu drwy ebostio yr ysgol ar ysgolglanmorfa@cardiff.gov.uk. Os ydych eisiau galwad ffon yna nid oes angen i chi wneud dim. Byddwn yn rhoi galwad ffon i bawb sydd heb wneud cais unigol am alwad fideo drwy Teams.
Diolch i chi gyd,
Mr M Tomos
Pennaeth
Dear Parents and Guardians,
For the upcoming Parents Evening we are delighted to be able to offer you a live Teams video meeting. If you would like a Teams meeting then it must be requested through the class teacher. You can do this during end of the day pick ups or by emailing the school at ysgolglanmorfa@cardiff.gov.uk. If we do not hear from you then you will receive a phone call at the time and date you have requested.
Thank you,
Mr M Tomos
Headteacher
-
Ceisiadau Dosbarth Derbyn / Reception Class Applications
Fri 12 Nov 2021Annwyl Rieni a Gwarcheidwaid,
Os oes cyfrifoldeb rhiant cyfreithiol gennych dros blentyn a aned rhwng 1 Medi 2017 a 31 Awst 2018, gallwch nawr wneud cais am le mewn dosbarth derbyn i ddechrau ym mis Medi 2022.
Mae’r ceisiadau’n agor Ddydd Llun 15 Tachwedd 2021. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Dydd Llun 10 Ionawr 2022. Caiff ceisiadau sy’n dod i law ar ôl y dyddiad hwn eu hystyried ar ôl i'r holl geisiadau a gyflwynwyd yn brydlon gael eu hasesu. Mae llawer o ysgolion yn llenwi yn ystod y cylch dyrannu lleoedd cyntaf hwn ac felly bydd eich siawns o gael un o'ch dewisiadau yn cynyddu'n sylweddol os gwnewch gais yn brydlon.
Cliciwch ar y ddolen PDF isod i weld y llythyr gan Gyngor Caerdydd ar sut i wneud eich cais.
Diolch yn fawr,
Mr M Tomos
Pennaeth
Dear Parents and Guardians,
If you have legl parental responsibility for a child born between 1 September 2017 and 31 August 2018 you can now apply for a school place in a reception class to start in September 2022.
Applications open on Monday 15 November 2021. The closing date for applications is Monday 10 January 2022.
Applications received after this date will be considered after all on time applications have been assessed. Many schools fill up in this first round of allocations, so it greatly increases your chance of being allocated one of your preferences if you apply on time.
Click on the PDF link below to view the letter from Cardiff Council on how to make the application.
Thank you,
Mr M Tomos
Headteacher
-
Noson Agored Derbyn (Medi 2022) / Reception Class (Sept 2022) Open Evening
Thu 11 Nov 2021Annwyl Rieni a Gwarcheidwaid,
Ar Nos Fercher, Tachwedd 17eg rydym yn cynnal noson agored i rieni sydd heb wneud penderfyniad eto o ba ysgol i anfon eu plant ym mis Medi 2022. Os ydych yn adnabod rhieni sydd yn ansicr os gwelwch yn dda rhowch wybod iddynt am y digwyddiad hwn. Mae'r broses gwneud ceisiadau ar gyfer Disgyblion Derbyn ym Medi 2022 ar agor rhwng Tachwedd 15fed ac Ionawr 9fed, 2022.
Yn ystod y daith o gwmpas yr ysgol bydd y Pennaeth ac aelodau o'r Uwch Dim yn siarad â rhieni a gofalwyr am fywyd yn ein hysgol; ein hathroniaeth addysgol; ein dull o addysgu a dysgu a sut rydym yn gweithio gyda'n teuluoedd i dyfu dysgwyr hyderus, uchelgeisiol. Isod mae linc i brynu tocynnau ar gyfer y noson drwy eventbrite.
Diolch i chi gyd am eich cefnogaeth.
Mr M Tomos
Pennaeth
Dear Parents and Guardians,
On Wednesday, November 17th we are holding an open evening for parents who are undecided on which school to send their children in September 2022. If you know or are aware of parents who are unsure then please let them know about this event. The schools admission portal for applying for a space in Reception for September 2022 is open between November 15th and January the 9th, 2022.
During our tour, the Head Teacher and our Senior Leadership Team will talk to parents and carers about life in our school; our educational philosophy; our approach to teaching and learning and how we work together with our families to grow confident, ambitious learners. Below is a link to the eventbrite page where free tickets can be purchased.
Thank you for your support.
https://www.eventbrite.co.uk/e/205531188317
Mr M Tomos
Headteacher
-
Achosion Positif Covid-19 / Covid-19 Positive Cases
Fri 05 Nov 2021Annwyl Rieni a Gwarcheidwaid,
Gallwn gadarnhau fod achos positif yn nosbarth Macsen - Dosbarth Miss Pippen (Blwyddyn 4) ac yn Nosbarth Olwen - Dosbarth Mr Morgan (Blwyddyn 5 a 6). Bydd y gwasanaeth tracio, olrhain a diogelu yn cysylltu gyda chi os bydd eich plentyn yn cael ei adnabod fel cyswllt agos.
Gofynnwn i chi gadw golwg agos ar eich plentyn dros y 10 diwrnod nesaf ac hysbysu'r ysgol a threfnu prawf PCR os ydy eich plentyn yn datblygu unrhyw symptomau.
Diolch i chi gyd,
Mr M Tomos
Pennaeth
Dear Parents and Guardians,
We can confirm that there is a positive case of Covid-19 in Dosbarth Macsen - Miss Pippen's class (Year 4) and in Dosbarth Olwen - Mr Morgan's class (Years 5/6).
The track, trace and protect team will contact you if your child is identified as a close contact. Please keep a close eye on your child over the next 10 days and keep the school informed and arrange a PCR test if your child develops any symptoms.
Thank you,
Mr M Tomos
Headteacher
-
Gardd Addysgol Glan Morfa / Glan Morfa Edible Playground
Tue 02 Nov 2021Annwyl Rieni a Gwarcheidwaid,
Dwi'n siŵr i nifer ohonoch sylwi ar y gwaith adeiladu sydd yn digwydd ar hyn o bryd tu allan i'r dosbarth Derbyn yng nghefn yr ysgol. Rydym yn falch iawn ein bod ni wedi cael ein dewis yn un o ysgolion Caerdydd sydd yn mynd i gael gardd addysgol newydd sbon ar ein maes chwarae. Mae hyn yn rhan o gynllun cenedlaethol "Trees for Cities - Edible Playgrounds".
Gwelwch isod am fwy o wybodaeth am y cynllun a'r hyn y mae yn ei gynnig i'r disgyblion/ysgol. Cliciwch ar y ddolen PDF i chi weld y cynllun cyffrous sydd yn cael ei adeiladu ar hyn o bryd. Rydym yn gobeithio i'r gwaith adeiladu orffen ymhen tair wythnos.
Diolch i chi gyd,
Mr M Tomos
Pennaeth.
Dear Parents and Guardians,
I am sure that you all noticed yesterday the building work that is currently taking place outside our Reception class in the playground. We are delighted that we have been chosen as one of the schools in Cardiff to be part of the "Trees for Cities - Edible Playground" initiative.
Please see below more information about this initiative and what is offers to our pupils and the school. Click on the PDF link to see the exciting design that is currently being built. We hope that the building work will be finished in around three weeks.
Thank you,
Mr M Tomos
Headteacher
Edible Playground Information
MANY CHILDREN IN INNER CITY AREAS DON’T KNOW WHERE THEIR FOOD COMES FROM
Increasingly exposed to unhealthy food choices and with limited opportunities to grow and eat good food, one in three children leaving primary school are overweight or obese.
Edible Playgrounds offer a lively, engaging, multi-sensory way to teach children about growing and eating healthy food. Aside from the physical health benefits that eating well brings, learning in an outdoor environment combats Nature Deficit Disorder and has been shown to increase mental health by boosting mood, confidence and self-esteem. Furthermore, allowing the children to connect with nature develops attentiveness and self-reliance in the pupils, leading to more sustainable behaviours in the long term.