Siarter Iaith
Gweledigaeth Siarter Iaith Ysgol Glan Morfa
Ein gweledigaeth yw fod pob plentyn yn cael cyfleoedd i ddatblygu'n ddinasyddion dwyieithog hyderus sy'n ymfalchio yn eu diwylliant Cymreig ac yn eu Cymreictod.
Ein nod yw dylanwadu'n bositif ar ddefnydd pob disgybl i siarad Cymraeg yn naturiol ar yr iard, yn y dosbarth ac yn y gymuned fel cyfrwng cyfathrebu, dysgu, chwarae a chymdeithasu yn yr ysgol a thu hwnt.
Ers lansio’r Siarter Iaith Gymraeg yn Ysgol Glan Morfa, mae llawer o waith gwerth chweil wedi digwydd yn ein hysgol.
Mae’r Siarter Iaith yn gofyn am gyfranogiad gan bob aelod o gymuned yr ysgol - y cyngor ysgol, y disgyblion, y gweithlu, rhieni, llywodraethwyr a’r gymuned ehangach er mwyn sicrhau perchnogaeth lawn ohoni.
Since the launch of the Welsh Language Charter in Ysgol Glan Morfa, many activities have taken place in our school.
The aim of the Siarter Iaith (Language Charter) is to be a positive influence on children's social use of Welsh. In short, to get the children to speak Welsh naturally amongst others.
The Siarter Iaith requires the involvement of all members of the school community - the school council, pupils, workforce, parents, governors and the wider community to ensure full ownership of it.
Cewri Cymreictod Siarter Iaith
Mae ein Cewri Cymreictod sy'n helpu'r arch arwyr Sbarc a Seren yn parhau eto eleni ond bellach ar daith i fyny'r wyddfa.
Apiau Cymraeg Defnyddiol
Cofiwch ddefnyddio'r apiau gwych yma i ddatblygu sgiliau eich plant trwy gyfrwng y Gymraeg.