Latest News
Yma fe gewch chi'r newyddion diweddaraf gyda'r hyn sy'n digwydd yn Ysgol Glan Morfa.
Keep up to date with all the latest news happening in school at the moment.
-
Gwisg Ymarfer Corff / PE Kit
Sun 30 Jul 2017Mae gwisg ymarfer corff newydd yr ysgol bellach ar werth yn YC Sports.
The new school PE Kit is now on sale in YC Sports.
*Mae'n iawn i'r plant barhau i wisgo'r hen git. Nid oes gorfodaeth arnoch i brynu'r cit newydd.
*Children can still wear the old t-shirts. There is no need to purchase this new kit if the old one is still fine.
Diolch / Thank you
-
Blwyddyn 6 / Year 6
Fri 21 Jul 2017Cafwyd gwasanaeth ffarwelio arbennig gyda disgyblion blwyddyn 6 ar brynhawn dydd Iau. Roedd neuadd yr ysgol yn llawn o rieni a phlant yr ysgol. Cafwyd dagrau o dristwch ond hefyd llond trol o chwerthin ac hapusrwydd!
Ar fore Gwener cyflwynwyd gwobrau'r enfys cyntaf i flwyddyn 6. Er fod pob un plentyn yn haeddiannol o wobr dyma'r disgyblion a ddaeth i'r brig.
Gwobr Cymreictod - Keon Bryan
Gwobr Parch - Courtney Colman
Gwobr Chwaraeon - Efan Thomas
Gwobr Caredigrwydd - Bryn Wilson
Gwobr Dyfalbarhad - Elliot Parsons
Gwobr Cyfraniad i Fywyd Ysgol - Sylvie Price
Gwobr Presenoldeb (ers y Derbyn) - Ruby Malam
Hoffwn gymryd y cyfle i ddymuno’n dda i ddisgyblion blwyddyn 6. Gobeithio byddant yn cadw mewn cysylltiad â pharhau i’n gwneud yn falch ohonynt.
On Thursday afternoon year 6 performed their final ever assembly. The hall was full of pupils and parents. We had tears of sadness but also lots of laughter!
On Friday morning we presented our first ever year 6 rainbow awards. Although each child deserves an award here are the children that were crowned the winners.
Welsh Language Award - Keon Bryan
Respect Award - Courtney Coleman
Sports Award - Efan Thomas
Kindness Award - Bryn Wilson
Persevere Award - Elliot Parsons
Award for contribution to school life - Sylvie Price
Attendance Award (since Reception) - Ruby Malam
I would like to take this opportunity to wish all of our year 6 leavers well in their future, I hope they will keep in touch and continue to make us all proud.
POB HWYL!
-
Elusen Arch Noa / Noah's Ark Charity
Wed 19 Jul 2017Braint a phleser oedd cyflwyno siec o £2384.50 i Elusen Arch Noa yn Ysbyty Plant Cymru. Fe fydd yr arian yr ydych wedi ei gasglu yn gwneud gymaint o wahaniaeth i fywydau plant a'u teuluoedd o ledled Cymru sydd yn dod yno am driniaeth. Cawsom daith fer o amgylch yr adeilad gwych a cafodd y plant gyfle i chwarae yn yr ardd newydd sbon! Diolch o waelod calon i chi gyd am eich caredigrwydd.
This morning we were so proud to present a cheque to the Noah's Ark Charity at the Children's Hospital of Wales for £2384.50. The money you have raised will make a huge difference to the lives of the children and their families from across Wales who visit the hospital for treatment. We also had a brief tour around the hospital and the children had an opportunity to visit their new garden. Many thanks for your kindness.
Diolch / Thank You
-
Seremoni Torri Tywarchen / Turf Cutting Ceremony
Tue 18 Jul 2017Adeilad Newydd
Ar fore Llun 17.7.17 fe gawsom seremoni torri tywarchen ar ein hysgol newydd. Yn bresennol roedd rhai o blant yr ysgol, Cynghorwyr Splott, adeiladwyr y prosiect, Cadeirydd y Llywodraethwyr, a’r Cyfarwyddwr Addysg. Fe fydd ffram yr adeilad yn cael ei osod yn ystod mis Awst. Byddwn yn eich hysbysu am ddatblygiadau’r adeilad yn ystod y flwyddyn.
New Building
On Monday morning the 17.7.17 we had the turf cutting ceremony of our new school building. Present were Splott councillors, project builders, Chair of Governors and the Director of Education. The frame of the building will be going up in August. We will inform you of the latest developments during the year.
-
Lawnsio Strategaeth yr Iaith Gymraeg / Welsh Language Strategy Launch
Mon 10 Jul 2017Dim pob dydd y mae'r Prif Weinidog a rheolwr y tîm pêl-droed cenedlaethol yn dod i'r ysgol. Ond dyna beth ddigwyddodd yn Ysgol Glan Morfa ar fore Llun, Gorffennaf 10fed. Fe ddaeth Llywodraeth Cymru i Sblot i lansio strategaeth newydd i dyfu nifer y siaradwyr Cymraeg i 1 filiwn erbyn 2050.
Ymysg y gwesteion i lansio'r strategaeth oedd y Prif Weinidog Carwyn Jones a Rheolwr Tîm Pêl-droed Cymru, Chris Coleman. Hefyd, roedd Gweinidog dros y Gymraeg, Alun Davies Pennaeth Materion Cyhoeddus Cymdeithas Bêl-droed Cymru Ian Gwyn Hughes, yn ogystal â Lauren Richards o'r Urdd, Un rhan o’r strategaeth yw cynyddu cyfran y plant mewn addysg cyfrwng Cymraeg. Bydd Ysgol Glan Morfa yn y blaen o ran yr ymdrech - rhagwelir yr ysgol yn dyblu mewn maint dros y saith mlynedd nesaf wrth iddynt symud i ysgol newydd pwrpasol dros ffordd i safle’r Maltings ym mis Medi 2018.
Cafodd disgyblion blwyddyn 6 gyfle i ofyn cwestiynau i'r panel cyn mynd am sesiwn hyfforddi o dan arweiniad Coleman a Richards gyda rhai ohonynt wedi gwisgo mewn cit pêl-droed Cymru. Roedd rhai o’r cwestiynau i’r panel ynglŷn â’r Gymraeg, a sut y bydd strategaeth y llywodraeth yn cyflawni ei dargedau. Roedd cwestiynau eraill yn cynnwys beth oedd y rhan orau o Ewro 2016, a beth sy'n gwneud pêl-droediwr da! Roedd y cyfryngau yng Nghymru yno mewn grym ar gyfer y digwyddiad gyda chamerâu teledu, radio a newyddiadurwyr print yn mynychu.
Cafwyd cawod law byr a olygodd gwtogi sesiwn hyfforddi gyda’r plant, ond ni allai hyn wlychu brwdfrydedd y disgyblion ar gyfer ymweliad rheolwr Cymru.
"Mae wedi bod yn fore gwych ac yn llwyfan gwych i ni i gyd yn gysylltiedig ag Ysgol Glan Morfa," meddai’r Pennaeth Mr Tomos.
It's not every day that the First Minister and the manager of the Welsh football team come to school.
But that's what happened at Ysgol Glan Morfa in Splott on Monday, as the Welsh Government came to Splott to launch a new strategy to grow the number of Welsh speakers to 1 million by 2050.
First Minister Carwyn Jones and Wales Football Manager Chris Coleman were joined by Welsh Language Minister Alun Davies and FAW Head of Public Affairs Ian Gwyn Hughes, plus Lauren Richards from the Urdd, to launch the strategy. One of the key stands of the strategy is to increase the proportion of children in Welsh medium schooling. Ysgol Glan Morfa will be in the vanguard of that effort – the school is projected to double in size over the next seven years as it moves to a new purpose-built school at The Maltings in September 2018.
Pupils from Year 6 – some of whom had dressed in Welsh football kit - had an opportunity to ask questions of the panel before going for a coaching session led by Coleman and Richards. The questions covered the Welsh language, how the government’s strategy will achieve its targets, what was the best part of Euro 2016, and what makes a good footballer! The Welsh media was in full force for the event with TV cameras, radio and print journalists attending.
A brief rain shower curtailed the children’s training session, but it couldn't dampen the pupils’ enthusiasm for the visit of the Welsh manager.
“It has been a fantastic morning and a wonderful showcase for us all associated with Ysgol Glan Morfa,” said Headteacher Mr Tomos.
-
Snapchat
Wed 05 Jul 2017Os ydy eich pletyn yn defnyddio'r ap Snapchat yna mae'n bwysig i chi rieni wylio'r fideo sydd ar y linc isod.
If your child uses the Snapchat App then click on the link below and watch the video.
http://www.bbc.co.uk/news/av/technology-40511947/snapchat-maps-wha