Latest News
Yma fe gewch chi'r newyddion diweddaraf gyda'r hyn sy'n digwydd yn Ysgol Glan Morfa.
Keep up to date with all the latest news happening in school at the moment.
-
Cyflwyno rhagor o brydau ysgol am ddim i holl blant Ysgolion cynradd Caerdydd / Further rollout of Universal Primary Free School Meals in Cardiff Schools
Thu 20 Apr 2023Cyflwyno rhagor o Brydau Ysgol Am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd yn ysgolion Caerdydd
Mae pob disgybl oed dosbarth derbyn yng Nghaerdydd wedi bod yn derbyn Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd yn llwyddiannus ers mis Medi 2022. Bydd cam nesaf y broses o gyflwyno’r cynnig yng Nghaerdydd yn golygu ei fod yn cael ei ymestyn i ddisgyblion Blwyddyn 1 o ddydd Llun 24 Ebrill. Er mwyn sicrhau nad yw disgyblion Blwyddyn 1 yn colli eu prydau ysgol am ddim, dylai teuluoedd fewngofnodi i'w cyfrif ParentPay a rhagarchebu eu prydau. Bydd y fwydlen ar gyfer yr wythnos yn dechrau ar 24 Ebrill, ar gael ar ParentPay o nos Wener.
Mae hwyluso'r lefel hon o newid ar draws pob ysgol gynradd wedi cyflwyno heriau sylweddol. Mae pob ysgol yn wahanol ac yn ogystal â materion yn ymwneud â gofod a chapasiti mewn sawl safle, rydym hefyd yn profi'r effaith o broblemau parhaus yn ymwneud â'r gadwyn gyflenwi a phwysau cyfredol y gweithlu .
Er gwaethaf yr anawsterau sylweddol hyn, mae timau'n gweithio'n galed gyda'r nod o gael darpariaeth ar waith fel y bydd prydau ysgol am ddim yn cael eu darparu i ddisgyblion Blwyddyn 2 o ddydd Llun 5 Mehefin 2023 a byddwch yn cael eich diweddaru yn unol â hynny.
Yn ogystal â’r cynllun Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd, dylai teuluoedd sy’n derbyn budd-daliadau sydd â phlant o bob oedran, barhau i gofrestru am brydau ysgol am ddim.
Further rollout of Universal Primary Free School Meals in Cardiff schools
All Reception aged pupils in Cardiff have been successfully receiving Universal Free School meals since September 2022. The next stage of the roll out in Cardiff will see the offer extended to Year 1 pupils from Monday 24th April. To ensure Year 1 pupils do not miss out on their free school meals, families should log onto their ParentPay account and pre order their meals. The menu for week commencing 24 April, will be available on ParentPay from Friday evening.
Facilitating this level of change across all primary schools has presented significant challenges. Each school is different and in addition to issues around space and capacity at many sites, we are also experiencing the impact from ongoing supply chain issues and current workforce pressures.
Despite these considerable difficulties, teams are working hard with the aim of having provision in place so that free school meals will be provided to Year 2 pupils from Monday 5th June 2023 and you will be updated accordingly.
In addition to Universal Free School Meals, families with children of all ages who receive benefits, should continue to register for a free school meal.
Diolch / Thank you
-
Ffair Haf 2023 / Summer Fayre 2023
Thu 20 Apr 2023 -
Pryderon Cyfryngau Cymdeithasol / Social Media Concerns
Tue 18 Apr 2023 -
Croeso 'Nol / Welcome back
Mon 17 Apr 2023 -
Diolch a phob lwc / Thank you and good luck
Mon 17 Apr 2023Annwyl Rieni a Gwarcheidwaid,
Mae'n ddrwg gennym eich hysbysu y bydd rheolwr swyddfa’r ysgol, Miss Loveluck, yn gadael yr ysgol ddydd Gwener. Mae Miss Loveluck wedi bod yn aelod amhrisiadwy o’n tîm ac wedi chwarae rhan hollbwysig yn sicrhau rhediad esmwyth ein hysgol.
Hoffem achub ar y cyfle hwn i ddiolch i Miss Loveluck am ei gwasanaeth ymroddedig i’n hysgol a dymuno’r gorau iddi ar gyfer y dyfodol.
Ar hyn o bryd rydym yn gweithio i sicrhau trosglwyddiad esmwyth ac rydym yn y broses o gadarnhau penodiad rheolwr swyddfa newydd. Yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni os bydd gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon.
Diolch am eich dealltwriaeth.
Cofion cynnes,
Mr M Tomos
PennaethDear Parents and Guardians,
We regret to inform you that our school office manager, Miss Loveluck, will be leaving the school this Friday. Miss Loveluck has been an invaluable member of our team and has played a crucial role in ensuring the smooth running of our school.
We would like to take this opportunity to thank Miss Loveluck for her dedicated service to our school and wish her all the best for her future endeavours.
We are currently working to ensure a smooth transition and we are in the process of finalising appointing a new office manager. In the meantime, please do not hesitate to contact us should you have any queries or concerns.
Thank you for your understanding.
Kind Regards,
Mr M Tomos
Headteacher