Latest News
Yma fe gewch chi'r newyddion diweddaraf gyda'r hyn sy'n digwydd yn Ysgol Glan Morfa.
Keep up to date with all the latest news happening in school at the moment.
-
Her Fawr Hanner Tymor / Big Half Term Challenge
Thu 27 May 2021Annwyl Rieni a Gwarcheidwaid,
Hanner tymor yma rydym ni’n gofyn i deuluoedd Ysgol Glan Morfa ymuno â Her Mawr Hanner Tymor! Allwch chi helpu ni i gyrraedd ein nod o gwbwlhau pellter Llwybr Arfordir Cymru, sef 870 milltir, er mwyn codi arian i’r ysgol?
Yn ystod wythnos hanner tymor fe fyddwn yn uno fel ysgol i gwbwlhau yn rhithiol yr 870 milltir. Croeso i chi gerdded, rhedeg, seiclo, mynd ar sgwter neu cerdded y ci! Gofynnwch i’ch teulu a ffrindiau i’ch noddi ac ewch allan i’r awyr agored a mwynhewch!
Wnewn ni gasglu’r milltiroedd at ei gilydd yn y gobaith y byddwn yn cyrraedd ein nôd.
Cyfle gwych i gael awyr iach, ymarfer corff a mwynhau amser fel teulu. Cofiwch i rhannu eich lluniau a sgrinluniau o’ch milltiroedd ar gyfrif Trydar/ Facebook yr ysgol drwy ddefnyddio’r hashnod #ysgolglanmorfaWCP
Diolch a phob lwc!
Meilir Tomos
Pennaeth
Dear Parents and Guardians,
This May half term we are asking the families of Ysgol Glan Morfa for help to complete the Big Half Term Challenge!
Can you help us reach our goal of completing the 870 miles of the Welsh Coastal Path in order to raise money for the school?
We are going to unite and virtually complete the 870 miles during half term week. You can run, walk, cycle, scoot or even walk the dog! Ask friends and family to sponsor you and to get involved themselves - every step helps!
A great opportunity to enjoy the fresh air, exercise and enjoy spending time as a family. Share pictures and screenshots of your miles on the school Twitter and Facebook pages using the hashtag #ysgolglanmorfaWCP
Thank you a good luck!
Meilir Tomos
Headteacher
-
Salwch / Sickness
Mon 24 May 2021Annwyl Rieni a Gwarcheidwaid,
Yn ddiweddar rydym wedi cael nifer fechan o achosion salwch yn yr ysgol. Gofynnwn yn garedig i chi am y canlynol.
1. Rhowch wybod i'r ysgol ar unwaith os ydy eich plentyn wedi bod yn sâl.
2. Yn dilyn achos o salwch mae'n rhaid i'ch plentyn aros i ffwrdd am leiafswm o 48 awr o'r tro olaf y maen nhw wedi bod yn sâl.
Diolch i chi gyd am eich cefnogaeth. Rydym yn parhau i fonitro'r sefyllfa yma'n agos.
Mr Meilir Tomos
Pennaeth
Dear Parents and Guardians,
We have recently had a small number of sickness cases at the school. We kindly ask you for the following.
1. Inform the school immediately if your child has been unwell.
2. Following an illness your child must stay at home for a minimum of 48 hours from the last time they have been unwell.
Thank you all for your support. We are monitoring this situation closely.
Mr Meilir Tomos
Headteacher
-
Wythnos Gerdded i'r Ysgol / Walk to School Week
Mon 17 May 2021Annwyl Rieni a Gwarcheidwaid,
Yr wythnos hon mae hi'n wythnos cerdded i'r ysgol a rydym yn gofyn i bawb gymryd rhan! Er mwyn hybu y digwyddiad hwn gofynnwn i chi dynnu eich llun yn cerdded i'r ysgol gyda'ch plentyn ac ei roi ar Facebook/Twitter gan dagio'r ysgol. Dyma gyfle gwych i adael y car adref a cherdded yma bob dydd (mae'r tywydd yn edrych yn ffafriol!). Os cliciwch ar y linc isod cewch fynediad i flog sydd yn son ychydig am yr hyn rydym wedi bod yn ei wneud.
Diolch yn fawr a mwynhewch y cerdded!
Mr Meilir Tomos
Pennaeth
Dear Parents and Guardians,
This week is walking to school week and we are asking all of you to take part! We ask you all to take your photo whilst walking to school with your child and post it on Facebook/Twitter and tag the school? This is a great opportunity to leave the car at home and walk here every day (weather is looking favorable!). If you click on the link below it will give you access to a blog that talks a little bit about what we've been doing.
Thank you and enjoy walking to school!
Mr Meilir Tomos
Headteacher
-
Noson Rieni - Diweddariad Pwysig / Parents Evening - Important Update
Mon 10 May 2021Annwyl Rieni a Gwarcheidwaid,
Yn dilyn noson rieni yr wythnos diwethaf fe ddaeth hi'n amlwg iawn fod nifer ohonoch yn cael trafferthion gyda Microsoft Teams. O ganlyniad i hyn rydym wedi penderfynu y bydd yr athrawon nos Fercher yn cysylltu gyda chi gyd drwy alwad ffon. Bydd eich apwyntiad yn parhau i fod yr un amser. Cofiwch ateb yr alwad (bydd yn dod trwy yn ddienw).
Diolch i chi gyd,
Mr Meilir Tomos
Pennaeth
Dear Parents and Guardians,
Following a parents' evening last week it became very clear that many of you were struggling with Microsoft Teams and other connection difficulties. As a result of this we have decided that the teachers on Wednesday evening will contact you all by phone call. Your appointment will continue to be the same time. Remember to answer the call (it will come through anonymously).
Thank you,
Mr Meilir Tomos