Cryfderau: Mae gen i gryfderau a sgiliau cryf yn y maes TGCh. Rydw i’n hyderus wrth ddefnyddio adnoddau Office fel Word a PowerPoint. Dwi hefyd yn hyderus wrth ddefnyddio Ipads ac amrywiaeth o apps.
Gobeithion: I helpu pobl gyda chyflwyniad gwaith a dysgu pawb sut i ddefnyddio’r offer TGCh fel Ipads a laptops yn effeithiol ac mewn ffordd hwylus.
Cryfderau: Mae gen i ddealltwriaeth o ba wefannau sy’n dda i blant ac sy’n hybu dysgu yn yr ysgol. Dwi’n gallu dangos i’r plant sut i ddefnyddio’r we yn ddiogel ac yn gallu helpu nhw i gynhyrchu gwaith TGCh da.
Gobeithion: Hoffwn i ddysgu mwy o bethau am TGCh wrth fod yn Arweinwr Digidol. Mae dysgu pethau newydd yn gyffrous.
Cryfderau: Rydw I’n llawn syniadau ac rydw i’n gallu cydweithio mewn tîm yn effeithiol.
Gobeithion: Fel Arweinwr Digidol rydw i eisiau dangos i’r plant bach sut i ddefnyddio’r we yn ddiogel a pha gemau sy’n briodol i chwarae.
Cryfderau: Dwi’n dda am greu cyflwyniadau PowerPoint a mynd ar HWB ac ar y we.
Gobeithion: Dwi eisiau dysgu sut i ddiweddaru gwefan. Hoffwn ddysgu plant y Cyfnod Sylfaen a hefyd Cyfnod Allweddol 2 sut i ddefnyddio Ipads a chyfrifiaduron yn hyderus.
Cryfderau: Rydw i’n hoffi mynd ar HWB i wneud amrywiaeth o bethau fel paentio, codio ac ysgrifennu. Gobeithion: Rydw i eisiau helpu pobl i godio a chreu IMovies a hefyd i ddatblygu sgiliau mathemateg, ysgrifennu a chelf.