Latest News
Yma fe gewch chi'r newyddion diweddaraf gyda'r hyn sy'n digwydd yn Ysgol Glan Morfa.
Keep up to date with all the latest news happening in school at the moment.
-
Rhaglen Cyfoethogi Bwyd a Hwyl / Food and Fun Holiday Enrichment Programme
Mon 23 May 2022Annwyl Rieni a Gwarcheidwaid,
Unwaith eto eleni, rydym yn rhedeg y Rhaglen Cyfoethogi Bwyd a Hwyl dros wyliau'r Haf rhwng Awst 15fed a'r 2il o Fedi.
Beth yw Bwyd a Hwyl?
Mae Bwyd a Hwyl yn rhaglen addysg yn yr ysgol sy’n darparu addysg am fwyd a maeth, gweithgarwch corfforol, sesiynau cyfoethogi a phrydau bwyd iach i blant yn ystod gwyliau’r haf.
Gan ddechrau fel cynllun peilot gan Gyngor Caerdydd yn 2015, mae Bwyd a Hwyl wedi datblygu’n rhaglen genedlaethol wedi’i hariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru a gaiff ei gweinyddu gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC). Yn 2021, bu 137 o ysgolion yn darparu’r rhaglen gan ddarparu mwy na 7,500 o leoedd i blant bob dydd y bu’n rhedeg.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ariannu SHEP yn 2022 gyda £4.85 miliwn wedi ei ddyrannu yn y gyllideb. Fe fydd CLlLC yn parhau i gydlynu cyflwyno’r cynllun drwy weithio’n agos gydag awdurdodau lleol ac asiantaethau partner.
Beth yw prif fanteision Bwyd a Hwyl?
- Mae’r cynlluniau’n annog plant i fod yn fwy actif dros yr haf
- Gwelliannau o ran deietau plant
- Gwneud ffrindiau newydd a chael hwyl
- Dysgu ac ymgysylltu â’r ysgol
- Gwella iechyd a lles rhieni
- Rhieni’n dysgu sgiliau newydd
- Cynnwys yr holl deulu
- Hwyluso cydweithredu rhwng asiantaethau
- Gwneud defnydd gwell o gyfleusterau presennol
- Annog ymgysylltu â'r gymuned
- Cynnig cyflogaeth am dâl a gwirfoddol
- Cyfeirio at wasanaethau eraill
- Helpu rhieni i dalu costau gwyliau’r ysgol
Mi fydd y sesiynau yn cael eu cynnal rhwng 09:00 a 15:00 ar y diwrnodau isod. Bydd y rhaglen ar gael i ddisgyblion y Derbyn i Flwyddyn 5.
Wythnos 1 - Dydd Llun, Awst 15fed - Dydd Iau, Awst 19eg (4 diwrnod)
Wythnos 2 - Dydd Llun, Awst 22ain - Dydd Iau, Awst 25ain (4 diwrnod)
Wythnos 3 - Dydd Mawrth, Awst 30ain - Dydd Gwener, Medi'r 2il (4 diwrnod)
Os ydych am eich plentyn fynychu gofynnwn yn garedig i chi gofrestru eich plant drwy glicio ar y weblink isod. Rydym angen gwybod y niferoedd sy'n debygol o fynychu. Dyddiad cau ar gyfer cofrestru fydd Dydd Gwener, Gorffennaf 1af.
Diolch yn fawr,
Mr M Tomos
Pennaeth
Dear Parents and Guardians,
This year once again, we are running the Food and Fun Holiday Enrichment Programme over the summer holidays between the15th August and the 2nd September.
What is Food and Fun?
Food and Fun is a school-based education programme that provides food and nutrition education, physical activity, enrichment sessions and healthy meals to children during the school summer holidays.
Starting as a pilot run by Cardiff Council in 2015, Food and Fun has developed into a national, fully funded Welsh Government programme administered by the Welsh Local Government Association (WLGA). In 2021, 137 schools delivered the programme and provided over 7500 places for children each day that it ran.
The Welsh Government has committed to fund SHEP in 2022 with £4.85m allocated in the budget. The WLGA will continue to coordinate the roll-out by working closely with local authorities and partner agencies.
What are the main benefits of Food and Fun?
- The schemes encourage children to be more active over the summer
- Improvements in children’s diets
- Making new friends and having fun
- Learning and engagement with school
- Improving parents’ health and well-being
- Parents learn new skills
- Involves the whole family
- Facilitates collaboration between agencies
- Makes better use of existing facilities
- Encourages community engagement
- Offers paid and voluntary employment
- Signposts to other services
- Helps parents meet the costs of school holidays
This will take place from 9:00 – 15:00. This programme will be available for pupils from Reception to Year 5.
Week 1 - Monday to Thursday (August 15th to August 19th)
Week 2 - Monday to Thursday (August 22nd to August 25th)
Week 3 - Tuesday to Friday (August 30th - September 2nd)
If you wish for your child to attend please click on the webpage link to take to an online form. Please complete the form as we need to know the numbers of pupils that are likely to attend. Registration will close on Friday, July 1st.
Thank you,
Mr M Tomos
Headteacher
Mwy o wybodaeth / Further information
Registration Link / Linc Cofrestru
-
Diwrnod Seren a Sbarc / Seren & Sbarc Day
Fri 13 May 2022Annwyl Rieni a Gwarcheidwaid,
Ar ddydd Gwener, Mai 20fed fe fyddwn yn dathlu diwrnod Seren a Sbarc. Bydd ein Cewri Cymreictod (Pwyllgor Cymraeg) yn trefnu nifer o ddigwyddiadau arbennig i ddathlu ein Cymreictod. Gall y plant ddod i'r ysgol yng ngwisg eu hunain (dim gwisg ysgol) ar y diwrnod hwn.
Diolch i chi gyd,
Mr M Tomos
Pennaeth
Dear Parents and Guardians,
On Friday, May 20th we are celebrating Seren and Sbarc day. Our Welsh Language Giants (Welsh Language Council) have arranged many different activities to celebrate this important day. Pupils can come to school in their own clothes (non uniform day).
Thank you,
Mr M Tomos
Headteacher
-
Panel Camlas Caerdydd / Cardiff Canal Panel
Thu 12 May 2022Cliciwch ar y linc isod i weld y panel mae dosbarth Rhiannon wedi ei greu gyda CISP Multimedia. Bydd y panel hwn yn cael ei arddangos ar y byrddau sy'n amgylchynu y gamlas ar heol Churchill.
Click on the link below to see the panel that Rhiannon class have created with CISP Multimedia. This panel will be on display on the boards surrounding the canal on Churchill Way.
-
Wythnos Cerdded i'r Ysgol / Walk to School Week
Wed 11 May 2022Annwyl Rieni a Gwarcheidwaid,
Yr wythnos nesaf (Mai 16eg -20fed) rydym yn dathlu wythnos Cerdded i'r Ysgol. Nod yr wythnos yw i bawb gerdded, beicio, sgwtio neu rhedeg i'r ysgol!
Mae’r wythnos hon ar gyfer ysgolion cynradd wedi’i adeiladu i wneud i ddisgyblion gael profiad uniongyrchol o bwysigrwydd cerdded i’r ysgol. Trwy’r her hon, bydd plant ar eu ffordd i gyrraedd yr isafswm o 60 munud o weithgarwch corfforol y dydd a argymhellir cyn cyrraedd gatiau’r ysgol!
Y llynedd, cymerodd y nifer uchaf erioed o dros 350,000 o ddisgyblion ledled y DU ran! Ymunwch â ni a helpwch ni i wneud 2022 yn flwyddyn fwyaf eto!
Diolch
Mr M Tomos
Pennaeth
Dear Parents and Guardians,
Next week we are celebrating Walk to School Week. The aim of this week is for all pupils to walk, scoot, cycle or run to school!
The fun and engaging week-long activity for primary schools has been built to make pupils experience first-hand the importance of walking to school.
Through this challenge, children will be well on their way to reaching their recommended 60 minutes minimum of physical activity per day before even reaching the school gates!
Last year, a record number of over 350,000 pupils across the UK took part! Join us this year by walking to school and help us make 2022 our biggest year yet!
Thank you,
Mr M Tomos
Headteacher
-
Etholiad Rhiant Lywodraethwr / Parent Governor Elections
Wed 11 May 2022Annwyl Rieni a Gwarcheidwaid,
Os hoffech fod yn rhiant-lywodraethwr mae angen i chi lenwi’r ffurflen ar lein (Google form drwy glicio ar y webpage link isod) erbyn dydd Gwener, Mai 27ain.
Ni chaiff unrhyw enwebiadau a geir ar ôl y dyddiad hwn eu derbyn.
Os ceir mwy o enwebiadau na nifer y rolau gwag sydd ar gael, cynhelir etholiad a benderfynir drwy fwyafrif syml. Byddai amserlen unrhyw etholiad fel a ganlyn:-
Dyddiad cau ar gyfer enwebiadau: Dydd Gwener 27.5.22
Cyhoeddi papurau pleidleisio (os oes angen etholiad): Dydd Gwener 6.6.22
Dychwelyd papurau pleidleisio: Dydd Gwener 17.6.22
Rwy’n gobeithio y gwnewch ystyried bod yn Rhiant-lywodraethwr. Byddai’r corff llywodraethu yn croesawu eich cyfraniad at ei waith hanfodol i hyrwyddo cyrhaeddiad, lles a datblygiad holl ddisgyblion yr ysgol.
Rhowch ystyriaeth ddwys i'r peth.
Yn gywir,
Mr M Tomos
Pennaeth
Dear Parents and Guardians,
If you would like to be a parent governor you need to fill in the nomination form (online Google form by clicking on the webpage link below) by Friday, 27th of May. Any nominations received after this date will not be accepted.
If more nominations are received than there are vacancies, an election will be held which would be decided by a simple majority. The timescale for any election would be as follows:-
Closing date for nominations: Friday 27.5.22
Issue of ballot papers (if election is required):
Friday 6.6.22
Return of ballot papers: Friday 17.6.22
I hope that you will think about becoming a School Governor. The governing body would welcome your involvement in their essential work to promote the achievement, well-being and development of all pupils at the school.
Please think about it.
Yours sincerely,
Mr M Tomos
Headteacher
Ysgol Glan Morfa
Llythyr Dwyieithog / Bilingual Letter
Ffurflen Enwebu / Nomination Form
-
Ail-ddatblygiad Parc y Maltings - Maltings Park Re-development
Fri 06 May 2022Annwyl Rieni a Gwarcheidwaid,
Dros y penwythnos neu yn gynnar yr wythnos nesaf mae Parc y Maltings yn mynd i gael ei amgylchynu gyda ffens er mwyn bwrw ati gyda'r gwaith ar ei ail ddatblygu. O ganlyniad ni fydd posib i chi ddod i'r ysgol drwy fynedfa'r Parc. Yr unig ffordd y gallwch ddod mewn i safle'r ysgol fydd drwy stad Bayside neu drwy'r brif dderbynfa oddi ar Heol Lewis. Pan fydd hyn yn digwydd mi fydd gennym staff ar y ddwy giât yn barod i'ch cyfarch a bydd eich plentyn wedyn yn cerdded i'r maes chwarae.
Diolch am eich cefnogaeth,
Mr M Tomos
Pennaeth
Dear Parents and Guardians,
Over the weekend or early next week Maltings Park is going to be closed off and surrounded by a fence to start the redevelopment work. As a result you will not be able to come to school through the park entrance. You can only enter the school site via the Bayside estate or through the main reception area off Lewis Road. When this happens we will have staff at both gates ready to greet you and your child who will then walk to the playground.
Thank you,
Mr M Tomos
Headteacher
-
Cyngor Rhieni ac Athrawon / Parent and Teacher Council
Fri 06 May 2022Annwyl Rieni a Gwarcheidwaid,
Rydym yn awyddus iawn i ailgychwyn y Cyngor Rhieni ac Athrawon er mwyn trefnu Ffair Haf yn yr ysgol. Gofynnaf yn garedig i chi fynychu y cyfarfod ar Fai 26ain, am 3:15 yn neuadd yr ysgol i'n cefnogi er mwyn i ni allu codi arian i wella'r ddarpariaeth ar gyfer addysg eich plentyn. Mae digwyddiadau fel hyn yn allweddol bwysig i fywyd ysgol ac fe fyddwn wir yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth.
Yn gywir,
Mr M Tomos
Pennaeth
Dear Parents and Guardians,
We are eager and ready to restart the Parent Teacher Council to organise a Summer Fayre at the school. I would like to invite you all to attend the meeting on Thursday, May 26th, at 3:15 pm in the school hall to support us so that we can raise funds to improve the provision for your child's education. Events like this are so important in school life and we would really appreciate your support.
Yours sincerely,
Mr M Tomos
Headteacher