Lawnsio Strategaeth yr Iaith Gymraeg / Welsh Language Strategy Launch
Dim pob dydd y mae'r Prif Weinidog a rheolwr y tîm pêl-droed cenedlaethol yn dod i'r ysgol. Ond dyna beth ddigwyddodd yn Ysgol Glan Morfa ar fore Llun, Gorffennaf 10fed. Fe ddaeth Llywodraeth Cymru i Sblot i lansio strategaeth newydd i dyfu nifer y siaradwyr Cymraeg i 1 filiwn erbyn 2050.
Ymysg y gwesteion i lansio'r strategaeth oedd y Prif Weinidog Carwyn Jones a Rheolwr Tîm Pêl-droed Cymru, Chris Coleman. Hefyd, roedd Gweinidog dros y Gymraeg, Alun Davies Pennaeth Materion Cyhoeddus Cymdeithas Bêl-droed Cymru Ian Gwyn Hughes, yn ogystal â Lauren Richards o'r Urdd, Un rhan o’r strategaeth yw cynyddu cyfran y plant mewn addysg cyfrwng Cymraeg. Bydd Ysgol Glan Morfa yn y blaen o ran yr ymdrech - rhagwelir yr ysgol yn dyblu mewn maint dros y saith mlynedd nesaf wrth iddynt symud i ysgol newydd pwrpasol dros ffordd i safle’r Maltings ym mis Medi 2018.
Cafodd disgyblion blwyddyn 6 gyfle i ofyn cwestiynau i'r panel cyn mynd am sesiwn hyfforddi o dan arweiniad Coleman a Richards gyda rhai ohonynt wedi gwisgo mewn cit pêl-droed Cymru. Roedd rhai o’r cwestiynau i’r panel ynglŷn â’r Gymraeg, a sut y bydd strategaeth y llywodraeth yn cyflawni ei dargedau. Roedd cwestiynau eraill yn cynnwys beth oedd y rhan orau o Ewro 2016, a beth sy'n gwneud pêl-droediwr da! Roedd y cyfryngau yng Nghymru yno mewn grym ar gyfer y digwyddiad gyda chamerâu teledu, radio a newyddiadurwyr print yn mynychu.
Cafwyd cawod law byr a olygodd gwtogi sesiwn hyfforddi gyda’r plant, ond ni allai hyn wlychu brwdfrydedd y disgyblion ar gyfer ymweliad rheolwr Cymru.
"Mae wedi bod yn fore gwych ac yn llwyfan gwych i ni i gyd yn gysylltiedig ag Ysgol Glan Morfa," meddai’r Pennaeth Mr Tomos.
It's not every day that the First Minister and the manager of the Welsh football team come to school.
But that's what happened at Ysgol Glan Morfa in Splott on Monday, as the Welsh Government came to Splott to launch a new strategy to grow the number of Welsh speakers to 1 million by 2050.
First Minister Carwyn Jones and Wales Football Manager Chris Coleman were joined by Welsh Language Minister Alun Davies and FAW Head of Public Affairs Ian Gwyn Hughes, plus Lauren Richards from the Urdd, to launch the strategy. One of the key stands of the strategy is to increase the proportion of children in Welsh medium schooling. Ysgol Glan Morfa will be in the vanguard of that effort – the school is projected to double in size over the next seven years as it moves to a new purpose-built school at The Maltings in September 2018.
Pupils from Year 6 – some of whom had dressed in Welsh football kit - had an opportunity to ask questions of the panel before going for a coaching session led by Coleman and Richards. The questions covered the Welsh language, how the government’s strategy will achieve its targets, what was the best part of Euro 2016, and what makes a good footballer! The Welsh media was in full force for the event with TV cameras, radio and print journalists attending.
A brief rain shower curtailed the children’s training session, but it couldn't dampen the pupils’ enthusiasm for the visit of the Welsh manager.
“It has been a fantastic morning and a wonderful showcase for us all associated with Ysgol Glan Morfa,” said Headteacher Mr Tomos.