Etholiad Rhiant Lywodraethwr / Parent Governor Elections
Annwyl Rieni a Gwarcheidwaid,
Os hoffech fod yn rhiant-lywodraethwr mae angen i chi lenwi’r ffurflen ar lein (Google form drwy glicio ar y webpage link isod) erbyn dydd Gwener, Mai 27ain.
Ni chaiff unrhyw enwebiadau a geir ar ôl y dyddiad hwn eu derbyn.
Os ceir mwy o enwebiadau na nifer y rolau gwag sydd ar gael, cynhelir etholiad a benderfynir drwy fwyafrif syml. Byddai amserlen unrhyw etholiad fel a ganlyn:-
Dyddiad cau ar gyfer enwebiadau: Dydd Gwener 27.5.22
Cyhoeddi papurau pleidleisio (os oes angen etholiad): Dydd Gwener 6.6.22
Dychwelyd papurau pleidleisio: Dydd Gwener 17.6.22
Rwy’n gobeithio y gwnewch ystyried bod yn Rhiant-lywodraethwr. Byddai’r corff llywodraethu yn croesawu eich cyfraniad at ei waith hanfodol i hyrwyddo cyrhaeddiad, lles a datblygiad holl ddisgyblion yr ysgol.
Rhowch ystyriaeth ddwys i'r peth.
Yn gywir,
Mr M Tomos
Pennaeth
Dear Parents and Guardians,
If you would like to be a parent governor you need to fill in the nomination form (online Google form by clicking on the webpage link below) by Friday, 27th of May. Any nominations received after this date will not be accepted.
If more nominations are received than there are vacancies, an election will be held which would be decided by a simple majority. The timescale for any election would be as follows:-
Closing date for nominations: Friday 27.5.22
Issue of ballot papers (if election is required):
Friday 6.6.22
Return of ballot papers: Friday 17.6.22
I hope that you will think about becoming a School Governor. The governing body would welcome your involvement in their essential work to promote the achievement, well-being and development of all pupils at the school.
Please think about it.
Yours sincerely,
Mr M Tomos
Headteacher
Ysgol Glan Morfa
Llythyr Dwyieithog / Bilingual Letter
Ffurflen Enwebu / Nomination Form