Ail-ddatblygiad Parc y Maltings - Maltings Park Re-development
Annwyl Rieni a Gwarcheidwaid,
Dros y penwythnos neu yn gynnar yr wythnos nesaf mae Parc y Maltings yn mynd i gael ei amgylchynu gyda ffens er mwyn bwrw ati gyda'r gwaith ar ei ail ddatblygu. O ganlyniad ni fydd posib i chi ddod i'r ysgol drwy fynedfa'r Parc. Yr unig ffordd y gallwch ddod mewn i safle'r ysgol fydd drwy stad Bayside neu drwy'r brif dderbynfa oddi ar Heol Lewis. Pan fydd hyn yn digwydd mi fydd gennym staff ar y ddwy giât yn barod i'ch cyfarch a bydd eich plentyn wedyn yn cerdded i'r maes chwarae.
Diolch am eich cefnogaeth,
Mr M Tomos
Pennaeth
Dear Parents and Guardians,
Over the weekend or early next week Maltings Park is going to be closed off and surrounded by a fence to start the redevelopment work. As a result you will not be able to come to school through the park entrance. You can only enter the school site via the Bayside estate or through the main reception area off Lewis Road. When this happens we will have staff at both gates ready to greet you and your child who will then walk to the playground.
Thank you,
Mr M Tomos
Headteacher