Cyflwyno rhagor o brydau ysgol am ddim i holl blant Ysgolion cynradd Caerdydd / Further rollout of Universal Primary Free School Meals in Cardiff Schools
Cyflwyno rhagor o Brydau Ysgol Am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd yn ysgolion Caerdydd
Mae pob disgybl oed dosbarth derbyn yng Nghaerdydd wedi bod yn derbyn Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd yn llwyddiannus ers mis Medi 2022. Bydd cam nesaf y broses o gyflwyno’r cynnig yng Nghaerdydd yn golygu ei fod yn cael ei ymestyn i ddisgyblion Blwyddyn 1 o ddydd Llun 24 Ebrill. Er mwyn sicrhau nad yw disgyblion Blwyddyn 1 yn colli eu prydau ysgol am ddim, dylai teuluoedd fewngofnodi i'w cyfrif ParentPay a rhagarchebu eu prydau. Bydd y fwydlen ar gyfer yr wythnos yn dechrau ar 24 Ebrill, ar gael ar ParentPay o nos Wener.
Mae hwyluso'r lefel hon o newid ar draws pob ysgol gynradd wedi cyflwyno heriau sylweddol. Mae pob ysgol yn wahanol ac yn ogystal â materion yn ymwneud â gofod a chapasiti mewn sawl safle, rydym hefyd yn profi'r effaith o broblemau parhaus yn ymwneud â'r gadwyn gyflenwi a phwysau cyfredol y gweithlu .
Er gwaethaf yr anawsterau sylweddol hyn, mae timau'n gweithio'n galed gyda'r nod o gael darpariaeth ar waith fel y bydd prydau ysgol am ddim yn cael eu darparu i ddisgyblion Blwyddyn 2 o ddydd Llun 5 Mehefin 2023 a byddwch yn cael eich diweddaru yn unol â hynny.
Yn ogystal â’r cynllun Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd, dylai teuluoedd sy’n derbyn budd-daliadau sydd â phlant o bob oedran, barhau i gofrestru am brydau ysgol am ddim.
Further rollout of Universal Primary Free School Meals in Cardiff schools
All Reception aged pupils in Cardiff have been successfully receiving Universal Free School meals since September 2022. The next stage of the roll out in Cardiff will see the offer extended to Year 1 pupils from Monday 24th April. To ensure Year 1 pupils do not miss out on their free school meals, families should log onto their ParentPay account and pre order their meals. The menu for week commencing 24 April, will be available on ParentPay from Friday evening.
Facilitating this level of change across all primary schools has presented significant challenges. Each school is different and in addition to issues around space and capacity at many sites, we are also experiencing the impact from ongoing supply chain issues and current workforce pressures.
Despite these considerable difficulties, teams are working hard with the aim of having provision in place so that free school meals will be provided to Year 2 pupils from Monday 5th June 2023 and you will be updated accordingly.
In addition to Universal Free School Meals, families with children of all ages who receive benefits, should continue to register for a free school meal.
Diolch / Thank you