Cyngherddau Nadolig / Christmas Concerts
Annwyl Rieni a Gwarcheidwaid,
Yn anffodus oherwydd y cyfyngiadau sydd ar ysgolion rydym ni eto yn yr un sefyllfa eleni o ran gallu gwahodd rhieni i mewn i’r ysgol i weld ein cyngherddau Nadolig. Ar hyn o bryd mae’r disgyblion wrthi’n brysur yn ymarfer a pharatoi ar gyfer y cyngherddau ac mi fydd yr athrawon mewn cyswllt gyda chi er mwyn trefnu gwisgoedd ac ati.
O ganlyniad i’r cyfyngiadau hyn ac ein dyletswydd i gadw ein disgyblion a theuluoedd yn ddiogel mi fydd ein cyngherddau eleni yn cael eu recordio ar eich cyfer. Mi fyddech yn derbyn ffilmiau yn ystod wythnos olaf y tymor.
Yn ogystal er mwyn sicrhau fod ein disgyblion yn cael profiadau arbennig dros yr ŵyl mae’r athrawon yn trefnu nifer o ddigwyddiadau/ymweliadau cyffrous i ddathlu’r Nadolig eleni. Mi fyddaf yn eich hysbysu o’r holl ddigwyddiadau/ymweliadau yn ystod yr wythnosau nesaf.
Diolch i chi gyd am eich cefnogaeth,
Mr M Tomos
Pennaeth
Dear Parents and Guardians,
Unfortunately due to the restrictions placed on schools we are again in the same position this year in terms of being able to invite parents into the school to see our Christmas concerts. The pupils are currently busy rehearsing and preparing for their concerts and the teachers will be in contact with you to arrange costumes.
As a result of these restrictions and our duty to keep our pupils and families safe, our concerts this year will be recorded for you. You will receive these films during the last week of term. In addition, we are working hard to ensuring that our pupils have wonderful experiences over the festive period, and the teachers are busy organising a number of exciting events/visits to celebrate Christmas this year. I will keep you informed of all the visits/events in the coming weeks.
Thank you all for your support,
Mr M Tomos
Headteacher