Wythnos Baratoi 22ain - 26ain o Fehefin / Preparation Week 22-26th of June
Annwyl Rieni,
Wrth baratoi ar gyfer ein dychweliad ar 29 Mehefin rydym yn hysbysu na fydd dysgu ar-lein yn digwydd yr wythnos nesaf 22ain - 26ain ar gyfer disgyblion o'r Derbyn i Flwyddyn 6 oherwydd y llwyth gwaith sydd angen ei wneud ar safle'r ysgol.
Fodd bynnag, bydd dysgu ar-lein yn parhau i'n disgyblion Meithrin a byddant yn cymryd rhan mewn diwrnod chwaraeon rhithwir! Rwy'n siŵr y bydd hi'n wythnos llawn hwyl o gadw'n heini a chadw'n iach!
Yr wythnos nesaf, bydd yr athrawon yn ysgrifennu adroddiadau blynyddol y plant a bydd yr adroddiadau hynny'n wahanol ac yn fwy cryno na'r arfer. Byddwch yn derbyn yr adroddiadau hynny cyn diwedd y tymor. Yn ogystal mae'r holl staff yn gweithio yn yr hwb i weithwyr allweddol yn Ysgol Glan Ceubal am ddeuddydd.
Byddant hefyd yn yr ysgol, yn paratoi'r ystafelloedd, yn symud dodrefn, yn hongian posteri, yn paentio llinellau ac ati ynghyd â chynllunio gweithgareddau hyfryd ar gyfer ein dysgu ar-lein ac i'r disgyblion pan fyddant yn dychwelyd ar y 29ain.
Diolch,
Meilir Tomos
Pennaeth
Dear Parents,
In preparation for our return on the 29th of June we inform you that online learning will not take place next week 22nd - 26th for pupils from Reception to Year 6 due to the work that would need to be carried out at the school site.
Online learning however will continue for our Nursery pupils and they will be taking part in a virtual sports day! I'm sure it will be a fun week of keeping fit and staying healthy!
Next week, the teachers will be writing the children’s annual reports and those reports will be different and more concise than usual. You will receive those reports before the end of term. Also, our staff will be working at the key worker hub at Ysgol Glan Ceubal for two days.
They will also be in school, preparing the rooms, moving furniture, hanging posters, painting lines etc along with planning wonderful activities for our online learning and for the pupils return on the 29th.
Thank you,
Meilir Tomos
Headteacher