Trefniadau'r Wythnos Yma / This Week's Arrangements
Annwyl Rieni / Gwarcheidwaid,
Dyma i chi drefniadau'r wythnos yma.
Dydd Llun
- Disgyblion Gweithwyr Allweddol yn unig - 08:30 - 15:00.
- Disgyblion newydd y feithrin Ionawr '21 - 12:15 - 2:45
- Cylch Meithrin (oriau arferol ac ar agor yn ddyddiol)
Mawrth, Mercher, Iau a Gwener
- Disgyblion Gweithwyr Allweddol 08:30 - 15:00
- Disgyblion y Feithrin, Derbyn, Blwyddyn 1 a 2 (Amserlen arferol. Cofiwch wirio'r amseroedd cywir ar y cynllun ailagor)
*Bydd pob disgybl arall sydd yn mynychu'r Hwb yn derbyn neges unigol gyda'r wybodaeth angenrheidiol. Rydych wedi derbyn y wybodaeth yma cyn hanner tymor.
Cofiwch hefyd fod disgyblion Cyfnod Allweddol 2 (Blynyddoedd 3-6) yn cychwyn ar sesiynau dysgu byw o yfory ymlaen. Mae'n hanfodol bwysig fod eich plentyn yn mynychu'r sesiynau hyn. Os oes unrhyw broblemau yna cysylltwch gyda ni. Mae'r holl wybodaeth ar eu dosbarth Google. Bydd gwaith hefyd ar yr Ap SeeSaw yfory i ddisgyblion y Cyfnod Sylfaen am y tro olaf.
Sesiynau Dysgu Byw Cyfnod Allweddol 2
- 09:15 - 10:00 - Sesiwn Iaith
- 11:15 - 12:00 - Sesiwn Fathemateg
- 13:30 - 14:00 - Sesiwn Gymorth
Rwyf wedi atodi ein cynllun ail agor i chi. Cliciwch ar y ddolen PDF i gael mynediad iddo. Gofynnaf yn garedig i chi ei ddarllen yn ofalus ac i ymgyfarwyddo eich hun gyda'r holl amseroedd a'r newidiadau cyn i'ch plentyn ddod nôl i'r ysgol.
Edrychaf ymlaen at groesawu nôl nifer o'n disgyblion yr wythnos hon.
Cofion cynnes,
Mr Meilir Tomos
Pennaeth
Dear Parents and Guardians,
Here are this week's arrangements.
Monday
- Critical Workers Pupils only 08:30 - 15:00.
- New Nursery January Starters Pupils only 12:15 - 14:45
- Cylch Meithrin (normal hours and open daily)
Tuesday, Wednesday, Thursday and Friday
- Critical workers hub (daily) 08.30 - 15.00
- Nursery, Reception, Year 1 and Year 2 - Normal timetable. Please check the timings on school reopening plan.
*All other Hub pupils will be contacted individually with attendance time and dates. This information was also distributed before half term.
From tomorrow our Key Stage 2 pupils (Years 3-6) will start live learning sessions. It is vitally important that your child attends these sessions. If you have any problems then please contact us. All the information is on their Google class. There will also be work on the SeeSaw App tomorrow for our Foundation Phase pupils for the last time.
- 09:15 - 10:00 - Language Session
- 11:15 - 12:00 - Maths Session
- 13:30 - 14:00 - Support Session
I have attached our reopening plan to this message. Please click on the PDF link below. I ask you kindly to read it carefully and familiarise yourselves with all the information before your child returns back to school.
I look forward to seeing many of our pupils back in school this week.
Best wishes,
Mr Meilir Tomos
Headteacher