Swydd Cymhorthydd Dosbarth
https://www.eteach.com/job.aspx?vacno=818457
Ysgol Glan Morfa
22 Stryd Hinton
Y sblot
Caerdydd
CF24 2LZ
Swydd: Cynorthwyydd dosbarth Cyfnod Sylfaen
Cyf: ED50250389
Gradd: Gradd 3 Pwynt 11 - 16 (£15,807 - £17,419 pro rata)
Swydd parhaol i gychwyn yn Ebrill 2018
Mae’r cyflog yn rhan o strwythur Statws Sengl a graddio’r Cyngor ac mae wedi’i chynyddu gan yr ychwanegiad Cyflog Byw. Caiff yr ychwanegiad Cyflog Byw ei adolygu yn Ebrill 2018 ac wedi hynny yn flynyddol bob mis Ebrill.
Gwahoddir ceisiadau ar gyfer y swydd hon gan gymhorthyddion brwdfrydig ac ymroddgar ar gyfer swydd cynorthwyydd dosbarth.
Mae Ysgol Glan Morfa yn ysgol lwyddiannus a chymunedol yn Nwyrain Caerdydd gyda 232 o ddisgyblion ar y gofrestr. Mae hon yn flwyddyn gyffrous yn hanes yr ysgol gan ein bod yn mis Medi 2018 yn symud i adeilad newydd sbon yn Ffordd Lewis, Sblot.
Dros y blynyddoedd nesaf fe fydd niferoedd yr ysgol yn dyblu i o gwmpas 420 o ddisgyblion. Dymuna’r llywodraethwyr apwyntio rhywun ysbrydoledig, brwdfrydig ac uchelgeisiol i ymuno a staff yr ysgol.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio gyda disgyblion yn y Cyfnod Sylfaen ac fel rhan o dîm staff ymroddgar yr ysgol. Fe fyddant yn cyfrannu tuag at gynllunio, trefnu a rheoli adnoddau ac yn gweithio gydag unigolion a grwpiau o blant o dan arweiniad. Bydd disgwyl iddynt rannu cyfrifoldeb a gofalaeth am blant yn ystod amser egwyl a chinio.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus gyfrannu at brofiadau helaeth addysgol, diwylliannol ac allgyrsiol y disgyblion.
Bydd yr ysgol yn darparu hyfforddiant ar gyfer datblygiad proffesiynol.
Mae’r swydd yn amser tymor yn unig sef 32.5 awr yr wythnos.
O dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, bydd angen i bob Gweithiwr Cymorth Dysgu Ysgolion gael ei gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg (EWC).
Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae’r swydd wag hon yn addas i’w rhannu.
Am fwy o fanylion neu ymweliad cysylltwch â’r Pennaeth Mr Meilir Tomos - Ffôn: 02920 483663 / E-bost: meilir.tomos@cardiff.gov.uk
Cysylltwch â Chysylltu â Chaerdydd (C2C) ar 02920 872088 neu e-bostiwch Caerdydd ar Waith swyddi@caerdydd.gov.uk am becyn cais gan ddyfynnu: ED50250389 a theitl y swydd.
Dylech ddychwelyd ffurflenni cais wedi’u cwblhau i’r ysgol erbyn y dyddiad cau.
Dyddiad cau: 16 Chwefror 2018 (12pm)
Mae diogelu ac amddiffyn plant yn flaenoriaethau pwysig i’r Cyngor. Ein nod yw helpu plant ac oedolion sy’n agored i niwed i sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion yn ymrwymedig i sicrhau diogelwch plant ac amddiffyn plant ac oedolion sy’n agored i niwed, a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu lles, gan gydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.