Storm Eunice - Cau'r Ysgol / School Closure
Annwyl Rieni a Gwarcheidwaid,
O ystyried y rhybudd tywydd coch a gyhoeddwyd ar gyfer yfory mae'r awdurdod lleol wedi penderfynu na ddylai disgyblion a staff fynychu safloedd ysgol yfory. O ganlyniad i hyn a gwyliau hanner tymor mi fydd yr ysgol yn ail-agor ar ddydd Llun, yr 28ain o Chwefror.
Mi fydd yr athrawon yn rhoi gweithgaredd i'r plant ei wneud ar ei cyfrif Google Class neu Seesaw ar gyfer yfory.
Gobeithio y byddwch i gyd yn cadw'n ddiogel a mwynhewch yr hanner tymor.
Yn gywir,
Mr M Tomos
Pennaeth
Dear Parents and Guardians,
In light of the red weather warning issued for tomorrow, the Local Authority has decided that all pupils and staff should not attend school. As a result and with the half term holidays the school will re-open on Monday, 28th of February.
The teachers will upload an activity to their SeeSaw/Google Class account for tomorrow.
I hope you all have a nice half term break and stay safe.
Yours sincerely,
Mr M Tomos
Headteacher