Rhybudd Poppy Playtime / Poppy Playtime Warning
Annwyl Rieni a Gwarcheidwaid,
Mae wedi dod i fy sylw bod disgyblion o’r ysgol wedi sôn wrth ffrindiau a staff eu bod yn gwylio fideos "Poppy Playtime" sy’n cael eu dosbarthu ar lwyfannau cymdeithasol fel TikTok ac Youtube.
Rwyf wedi cael gwybod bod yr heddlu wedi bod yn rhoi rhybuddion i rieni plant ifanc am "Poppy Playtime". Mae'r fideos yn cynnwys y cymeriad Huggy Wuggy. Mae'r prosiectau hyn, sydd wedi'u gwneud gan gefnogwyr ar lein, yn chwarae cerddoriaeth iasol ac yn dangos yr anghenfil glas blewog yn gwenu, gyda'i geg yn llawn dannedd tebyg i siarc. Mae'r cymeriad hyn hefyd yn son am ladd a marwolaeth.
Mae'r fideos wedi mynd yn firaol, gan arwain at siawns uwch y bydd plant diarwybod yn gweld y cynnwys wrth edrych ar fideos eraill poblogaidd. Er gwaethaf ei ymddangosiad tebyg i degan, nid yw Huggy Wuggy yn gyfeillgar i blant, gan arwain at sawl rhybudd gan awdurdodau.
Roeddwn i eisiau eich gwneud chi i gyd yn ymwybodol rhag ofn i'ch plentyn weld unrhyw beth a allai achosi ofn iddynt. Mae'n ddyletswydd arnaf hefyd i'ch hysbysu fod TikTok a YouTubeyn ei gwneud yn ofynnol i'w ddefnyddwyr fod o leiaf 13 mlwydd oed.
Diolch yn fawr,
Mr M Tomos
Pennaeth
Dear Parents and Guardians,
It has been brought to my attention that pupils from the school have mentioned to friends and staff that they are watching Poppy Playtime videos which are circulated on platforms such as TikTok and Youtube. I have been informed that police have been issuing warnings to parents of young children about Poppy Playtime. Videos prominently featuring the main antagonist, Huggy Wuggy.
These fan-made projects play eerie music and show the signature blue furry monster grinning, with his mouth full of shark-like teeth. This character also talks about death and killing. The videos have gone viral, leading to a higher chance that unsuspecting children will see the content when looking at popular videos. Despite his toy-like appearance, Huggy Wuggy is not child-friendly, leading to several warnings from authorities.
I just wanted to make you all aware in case your child sees anything that might cause them distress. It is also my duty to inform you that TikTok and YouTube requires its users to be at least 13 years old.
Thank you,
Mr M Tomos
Headteacher