Prif Bwyntiau Ail Agor / Reopening Main Points
Annwyl Rieni / Gwarcheidwaid,
Gobeithio eich bod chi gyd wedi cael gwyliau braf ac eich bod chi gyd yn ddiogel. Rydym i gyd yn edrych ymlaen yn arw i weld ein disgyblion dros y dyddiau nesaf. Rydych i gyd wedi derbyn dogfen ail agor yr ysgol (ar ein hap ac ar ein gwefan) sydd yn cynnwys holl amseroedd cychwyn a gorffen diwedd y dydd. Gofynnwn yn garedig i chi sicrhau eich bod yn dod ar yr amseroedd cywir. Hefyd, wrth aros tu fas i furiau'r ysgol gofynnwn i chi barchu'r rheol pellter cymdeithasol o ddau fetr fel eich bod chi gyd yn aros yn ddiogel.
- Disgwyliwn i bob disgybl ddychwelyd i'r ysgol (ar eu diwrnodau cywir)
- Bydd angen pecyn bwyd, byrbryd iach a photel o ddŵr ar eich plentyn. Gobeithio y bydd ein cegin yn ailagor ar Fedi 14eg.
- Gwisg Ysgol - pawb i wisgo gwisg ysgol lawn.
- Os bydd unrhyw blentyn yn dangos unrhyw symptomau Covid-19 yna byddant yn mynd i'n hystafell ynysu. Bydd aelod o staff yn aros gyda nhw nes bydd y plentyn wedi'i gasglu.
- Os yw plentyn neu aelod o staff yn profi'n bositif ar gyfer Covid-19 bydd angen i'r dosbarth aros adref am 14 diwrnod. (bydd hyn yn cael ei gyfleu i chi mewn mwy o fanylder ynghyd â'n canllawiau dysgu o bell)
- Os yw aelod o'ch teulu neu unrhyw un y mae eich plentyn wedi cael cyswllt agos yn profi'n bositif ar gyfer Covid-19 yna bydd yn rhaid iddynt ynysu am 14 diwrnod (*canllawiau Llyw Cymru - gwiriwch y wefan). Peidiwch â dod â'ch plentyn i'r ysgol.
Pwysig! Os yw eich plentyn yn teimo'n sal peidiwch a dod a nhw i'r ysgol.
Os oes angen i chi gysylltu â ni yna gwnewch hynny trwy e-byst a galwad ffôn.
Pob dymuniad da,
Mr Meilir Tomos
Pennaeth
Dear Parents / Guardians,
I hope you have had a nice summer and that you are all keeping safe and well. We are looking forward to seeing all our pupils return tomorrow and over the next few days. I have sent you our reopening plan (it's on our school app and on our website) which includes all important information as well as school timings. Also, whilst you are waiting outside the school gate we ask all of our parents to kindly ensure the two metre social distantcing rule so that everybody is safe.
- We expect every pupils to return to school (on their correct days)
- Your child will need a packed lunch, healthy snack and a bottle of water. Our kitchen will hopefully reopen on September 14th.
- School Uniform - everybody to wear full uniform.
- If any child shows any Covid-19 symptoms then they will go into our isolation room. A member of staff will stay with them until the child has been collected.
- If a child or member of staff tests positive for Covid-19 the class will need to stay home for 14 days. (this will be communicated to you more details at the time along with our distance learning)
- If a member of your family or anybody your child has had close contact tests positive for Covid-19 then they will have to isolate for 14 days (*check WG guidance at the time). Do not bring your child into school.
- If you need to contact us then please do so throug emails and a phone call.
Important! Please do not bring your child into school if they are unwell.
Thank you for your cooperation. I'm looking forward to seeing you all tomorrow and over the next few days.
Best wishes,
Mr Meilir Tomos
Headteacher