Hwb Nadolig Gweithwyr Allweddol / Key Workers Christmas Hub
Annwyl Rieni a Gwarcheidwaid,
Cliciwch ar y linc PDF isod am ein llythyr ynglŷn â Hwb Nadolig Gweithwyr Allweddol.
Os yw'r ddau riant / gofalwyr plentyn yn ffitio i mewn i unrhyw un o'r categorïau gweithwyr allweddol yna byddwch chi'n gallu gwneud cais am ddarpariaeth ar ein safle am y tridiau hyn.
Mae'r gyfradd drosglwyddo gyfredol ar gyfer Covid-19 yn bryder enfawr yma yng Nghaerdydd. Felly, ceisiwch ddefnyddio'r cynnig hwn o ddarpariaeth ysgol fel dewis olaf, os oes gennych ddewisiadau amgen diogel ar gyfer gofal plant, defnyddiwch y rhain.
Bydd cadw'r niferoedd yn isel yn yr ysgol yn ein galluogi i gadw unrhyw gysylltiadau agos a lleihau'r niferoedd fydd efallai yn gorfod hunan ynysu dros y Nadolig, os bydd angen.
Gofal plant yn unig fydd y ddarpariaeth yn yr ysgol.
Rhaid gwneud pob cais trwy'r Ffurflen Google erbyn 10yb bore yfory. (Cliciwch ar y web linc i'w lenwi)
Diolch yn fawr,
Mr Meilir Tomos
Pennaeth
Dear Parents and Guardians,
Please click on the PDF link to read the school's letter regarding the Key Workers Christmas Hub. If both parents/carers of a child fits into any of the key workers categories then you will be able to apply for on-site provision for these three days.
The current rate of transmission for Covid-19 are a huge concern here in Cardiff.
Therefore, please try to use this offer of school provision as a last resort, if you have safe alternatives for childcare please use these.
Keeping the numbers low in school will enable us to keep any close contacts and self isolation over Christmas, if required to a minimum.
Provision in school will be childcare only.
All applications must be made through the Google Form (click on the website link below) by 10am tomorrow morning.
Thank you
Mr Meilir Tomos
Headteacher