Eisteddfod Cylch yr Urdd
Ddoe yn Ysgol Gyfun Bro Morgannwg, Y Barri fe gynhaliwyd Eisteddfod Cylch yr Urdd - Canol Caerdydd.
Hoffwn longyfarch pob plentyn a gynrychiolodd yr ysgol yn y cystadlaethau unigol. Mi wnaethon nhw i gyd berfformio yn wych a dwi'n sicr y bydd y plant yn elwa llawer o'r profiad. Diolch hefyd i'r holl athrawon, cymhorthyddion a rhieni sydd wedi bod yn eu hyfforddi.
Yng nghystadleuaeth olaf y dydd fe lwyddodd côr yr ysgol i gipio'r ail wobr! Dyma'r tro cyntaf yn hanes yr ysgol iddynt gystadlu. Rwyf mor falch dros y plant a'r staff sydd wedi bod yn brysur ymarfer dros y misoedd diwethaf.
Hoffwn gymryd y cyfle hwn hefyd i ddiolch i bawb a ddaeth i gefnogi ddoe. Dwi'n sîwr y byddwch yn cytuno roedd aros hyd y diwedd werth pob eiliad!
Canlyniad y Côr
1. Ysgol Melin Gruffydd
2. YSGOL GLAN MORFA
3. Ysgol Pencae & Ysgol y Wern
Yesterday at Ysgol Gyfun Bro Morgannwg, Barry the Urdd Area Eisteddfod was held.
I would like to congratulate all the children who represented the school in the individual competitions. They all performed so well and I'm sure that they will benefit so much from this experience. I would also like to thank all the teachers and parents who have been busy coaching the children.
In the final competition of the day, our school choir claimed second prize! This is the first time in the school's history that our school choir has competed in this competition. I am so proud of all the children and staff who have been busy rehearsing over the last few months.
I would also like to take this opportunity to thank everyone who came to support yesterday. I'm sure you'll agree that all the waiting was worth it!
Choir Result
1. Ysgol Melin Gruffydd
2. YSGOL GLAN MORFA
3. Ysgol Pencae & Ysgol y Wern