Diolch / Thank You
Mae'r wythnosau diwethaf wedi bod yn rhai prysur dros ben i'r ysgol gyda'r sioe haf, gweithgareddau chwaraeon, teithiau addysgol ac wrth gwrs yr holl waith pacio a symud i'n cartref newydd. Dwi'n mawr obeithio i chi fwynhau'r bore agored ddoe ac eich bod chi fel ni yn edrych ymlaen am ddechrau cyfnod newydd cyffrous i'r ysgol.
Ar ran fy holl staff hoffwn ddiolch i chi gyd am eich cefnogaeth dros y flwyddyn. Hoffwn ddiolch yn arbennig i'r rhai ohonoch sydd wedi ein cynorthwyo ar dripiau, darllen gyda'r disgyblion neu drwy eich gwaith gyda'r Cyngor Rhieni. Mae eich cyfraniad chi yn allweddol i lwyddiant yr ysgol.
Hoffwn hefyd ddiolch i staff arbennig yr ysgol am eu gwaith caled dros y flwyddyn i sicrhau fod eich plentyn yn cael yr addysg orau a'r profiadau orau bosibl.
Yn olaf hoffwn ddymuno yn dda i ddisgyblion blwyddyn 6 sydd yn ein gadael heddiw. Rydw i'n ffyddiog y byddwch yn gwneud eich gorau yn yr ysgol uwchradd.
Mwynhewch wyliau'r Haf ac edrychwn ymlaen at eich croesawu ar ddydd Mercher, Medi'r 5ed.
Cofion cynnes,
Meilir Tomos
Pennaeth
The last few weeks have been extremely busy with our summer show, many educational visits, sporting activities and of course all the packing to move into our new home. I hope you enjoyed the open morning yesterday at our new site and that you like us are looking forward to start an exciting new chapter.
On behalf of all my staff, I would like to thank you all for your support over the year. I would particularly like to thank those of you who have assisted us on trips, reading with the pupils or through your work with the Parent Council. Your contribution is key to the success of the school.
I would also like to thank all our fantastic school staff for their hard work over the year to ensure that your child gets the best possible education and learning experiences.
Finally, I would like to wish the year 6 pupils who leave us today well. I'm confident that you will do your best in your new school.
Enjoy the Summer holidays and we look forward to welcoming you back on Wednesday, the 5th of September.
Best wishes,
Meilir Tomos
Headteacher