Dillad Ymarfer Corff / PE Kits
Ar ddechrau Tymor yr Haf, hoffem gymryd y cyfle hwn i atgoffa rhieni / gofalwyr am ein disgwyliadau ynglŷn â dillad ymarfer corff. A fyddwch mor garedig a sicrhau fod gan eich plentyn y dillad/esgidiau cywir yn yr ysgol ar eu diwrnodau Addysg Gorfforol. Rydym yn eich cynghori i gadw’r dillad yn yr ysgol trwy gydol yr wythnos rhag ofn fod unrhyw newidiadau i'r amserlen.
Diolch i'r plant hynny sy'n gwisgo'r dillad cywir yn gyson yn ystod y gwersi. Hoffwn eich atgoffa ei fod yn hanfodol i'r holl ddisgyblion wisgo’r dillad priodol ar gyfer gwersi Addysg Gorfforol er mwyn sicrhau hylendid a diogelwch personol.
Yn ystod gwersi Addysg Gorfforol, ni chaniateir i blant wisgo gemwaith o unrhyw fath, gan gynnwys oriawr, mwclis a chlustdlysau. Gwnewch yn siŵr y gellir eu tynnu neu eu diogelu'n ddiogel yn ystod y wers.
Dylai’r wisg Addysg Gorfforol gynnwys;
- Crys-t lliwgar un o dai’r ysgol gyda logo’r ysgol.
- Siorts Du
- Plimsolls neu esgidiau priodol eraill ar gyfer Addysg Gorfforol (Mae hyn yn hanfodol ar gyfer diogelwch eich plentyn ac ni fyddant yn gallu cymryd rhan heb esgidiau priodol)
- Tracwsig neu siwmper os oes angen (dibynnol ar y tywydd)
Diolch o flaen llaw am eich cefnogaeth gyda sicrhau bod gan eich plentyn y wisg gywir ar gyfer gwersi Addysg Gorfforol.
Yn gywir,
Mr Tomos, Pennaeth
At the start of the Summer Term we would like to take this opportunity to remind parents/carers of our PE kit expectations. Please ensure your child has the correct PE kit in school on their timetabled PE days. However, it is advised your child keeps their kit in school throughout the week in case of any timetable changes.
Thank you to those children who consistently wear the correct PE kit during lessons. Please could we remind you that it is essential for all pupils to wear appropriate kit for their PE lessons to ensure personal hygiene and safety.
During PE lessons children are not allowed to wear jewellery of any kind, including watches, necklaces and earrings, please ensure these can be removed or safely secured during PE.
Kit should include:
- House coloured t-shirt with a school logo. (available from YC Sports)
- Black Shorts
- Plimsolls/trainers or other appropriate footwear for P.E. (This is essential for your child’s safety and they will not be able to participate without appropriate footwear)
- Tracksuit bottoms/top if needed
Thank you in advance for your support with ensuring your child is well equipped for PE lessons.
Yours Sincerely,
Mr Tomos, Headteacher