Darllen / Reading
Annwyl Rieni a Gwarcheidwaid,
Un o flaenoriaethau'r ysgol eleni yw codi safonau darllen ein disgyblion. O ganlyniad rydym yn gofyn i chi ein rhieni/gwarcheidwaid i'n cynorthwyo i sicrhau fod ein disgyblion yn cyrraedd eu lefel ddisgwyledig erbyn diwedd y flwyddyn.
Mae'r gallu i ddarllen yn un o sgiliau mwyaf hanfodol bywyd. Mae'n bwysig dros ben fod ein disgyblion yn darllen yn ddyddiol er mwyn iddynt ddod yn ddarllenwyr hyderus a rhugl yn Gymraeg ac yn Saesneg. Yn yr ysgol rydym yn rhoi cyfleoedd dyddiol i'r plant ymarfer eu darllen a gofynnwn yn garedig i chi sicrhau fod eich plant yn cael y cyfle i ddarllen yn ddyddiol gartref hefyd.
Er mwyn eich cynorthwyo rydym wedi buddsoddi mewn rhaglen darllen Saesneg ar-lein o'r enw "Bug Club" ac mae'r holl wybodaeth yn y llythyr sydd wedi ei atodi. Mae'r rhaglen hon ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3-6. Fe fydd yr athrawon yn rhoi diweddariad pellach i chi ar safonau/lefelau darllen eich plentyn yn ystod y noson rieni a fydd yn cael ei gynnal yn ystod mis Tachwedd yn ogystal â chyngor pellach ar sut i gefnogi eich plentyn.
Bydd "Bug Club" ar gael i'ch plentyn o amser cinio dydd Gwener yma 22.10.21 fel fod eich plentyn yn gallu ei ddefnyddio dros hanner tymor.
Diolch i chi gyd am eich cefnogaeth.
Mr M Tomos
Pennaeth
Dear Parents and Guardians,
One of the school's main priorities this year is to raise standards in the reading skills of our pupils. Therefore we are asking parents/guardians to assist us in ensuring our pupils reach their expected reading level by the end of the school year.
The ability to read is one of life's most essential skills. It is extremely important that our pupils are given opportunities to read daily so they become confident and fluent readers in English and in Welsh. At school we give the children numerous daily opportunities to practise their reading but we are asking you to support us to ensure that your child has the opportunity to read daily at home as well.
To assist our pupils, we have invested in an online English reading programme called "Bug Club" and all the information is in the attached letter. This programme is suitable for pupils in years 3-6. Our teachers will be able to give you a further update on your child's standards/reading levels and offer you guidance of how best to support your child during the parents' evening which will be held during November.
Bug Club will be available from midday on Friday 22.10.21 just in time for the pupils to use it over half term.
Thank you all for your support,
Mr M Tomos
Headteacher