Latest News
Yma fe gewch chi'r newyddion diweddaraf gyda'r hyn sy'n digwydd yn Ysgol Glan Morfa.
Keep up to date with all the latest news happening in school at the moment.
-
Neges o'r Pennaeth / Headteacher's Message
Fri 26 Jun 2020Annwyl Rieni / Gwarcheidwaid,
Llythyr cyn i chi ddychwelyd. Gobeithio eich bod chi gyd yn cadw'n ddiogel ac rydym yn edrych ymlaen i'ch gweld chi dros yr wythnosau nesaf.
Cofion
M Tomos
Dear Parents / Guardians,
This is a letter before you come back. I hope you are all keeping safe and well and I look forward to seeing you all over the next few weeks.
Best wishes,
M Tomos
-
Ffilmiau byr ail agor / Reopening the school shoirt films
Thu 25 Jun 2020Annwyl Rieni
Dyma ychydig o fideos syml i ddangos i'r plant cyn eu bod yn dychwelyd cyn dydd Llun. Mae pedwar fideo i gyd.
- Croeso nol
- Plant yr Hwb
- Cyfnod Allweddol 2
- Cyfnod Sylfaen
Rwyf yn edrych ymlaen yn fawr i groesawu'r plant nol i'r ysgol o'r 29ain o Fehefin. Mwynhewch y penwythnos.
Meilir Tomos
Pennaeth
https://ysgol-glan-morfa.primarysite.media/
Dear Parents
Here are a few videos we have made to show our pupils some of the changes that have been made before their return from Monday the 29th of June. There are 4 videos which are;
Welcome back
Key Stage 2
Foundation Phase
The HUB
I am looking forward to seeing all of our pupils back in school from Monday the 29th of June.
Have a good weekend,
Meilir Tomos
Headteacher
-
Llawlyfr Rhieni - Cynllun Ail Agor / Parent Handbook - Reopening Plan
Fri 19 Jun 2020 -
Wythnos Baratoi 22ain - 26ain o Fehefin / Preparation Week 22-26th of June
Wed 17 Jun 2020Annwyl Rieni,
Wrth baratoi ar gyfer ein dychweliad ar 29 Mehefin rydym yn hysbysu na fydd dysgu ar-lein yn digwydd yr wythnos nesaf 22ain - 26ain ar gyfer disgyblion o'r Derbyn i Flwyddyn 6 oherwydd y llwyth gwaith sydd angen ei wneud ar safle'r ysgol.
Fodd bynnag, bydd dysgu ar-lein yn parhau i'n disgyblion Meithrin a byddant yn cymryd rhan mewn diwrnod chwaraeon rhithwir! Rwy'n siŵr y bydd hi'n wythnos llawn hwyl o gadw'n heini a chadw'n iach!
Yr wythnos nesaf, bydd yr athrawon yn ysgrifennu adroddiadau blynyddol y plant a bydd yr adroddiadau hynny'n wahanol ac yn fwy cryno na'r arfer. Byddwch yn derbyn yr adroddiadau hynny cyn diwedd y tymor. Yn ogystal mae'r holl staff yn gweithio yn yr hwb i weithwyr allweddol yn Ysgol Glan Ceubal am ddeuddydd.
Byddant hefyd yn yr ysgol, yn paratoi'r ystafelloedd, yn symud dodrefn, yn hongian posteri, yn paentio llinellau ac ati ynghyd â chynllunio gweithgareddau hyfryd ar gyfer ein dysgu ar-lein ac i'r disgyblion pan fyddant yn dychwelyd ar y 29ain.
Diolch,
Meilir Tomos
Pennaeth
Dear Parents,
In preparation for our return on the 29th of June we inform you that online learning will not take place next week 22nd - 26th for pupils from Reception to Year 6 due to the work that would need to be carried out at the school site.
Online learning however will continue for our Nursery pupils and they will be taking part in a virtual sports day! I'm sure it will be a fun week of keeping fit and staying healthy!
Next week, the teachers will be writing the children’s annual reports and those reports will be different and more concise than usual. You will receive those reports before the end of term. Also, our staff will be working at the key worker hub at Ysgol Glan Ceubal for two days.
They will also be in school, preparing the rooms, moving furniture, hanging posters, painting lines etc along with planning wonderful activities for our online learning and for the pupils return on the 29th.
Thank you,
Meilir Tomos
Headteacher
-
Llythyr Cyfarwyddwr Addysg i Rieni / Director of Education Letter to Parents
Wed 17 Jun 2020Annwyl Rieni,
Cliciwch ar y linc isod am lythyr y Cyfarwyddwr Addysg i rieni / gwarcheidwaid ynglyn ac ail agor ysgolion. Mae hefyd gwybodaeth bwysig yno ynglyn a'r hwb gweithwyr allweddol a sut i ymgeisio am le.
Diolch i chi gyd,
Meilir Tomos
Click on the link below for the Director of Education's letter to parents/carers about reopening schools. There is also other important information on there about key workers hub and how to apply.
Thank you all,
Meilir Tomos
Welsh Letter
English Letter
-
Llywodraethwyr - Ail Agor / Governing Body - Reopening
Fri 12 Jun 2020 -
Dychwelyd i'r Ysgol / Returning to school
Thu 04 Jun 2020