Latest News
Yma fe gewch chi'r newyddion diweddaraf gyda'r hyn sy'n digwydd yn Ysgol Glan Morfa.
Keep up to date with all the latest news happening in school at the moment.
-
Cyngherddau Nadolig / Christmas Concert
Thu 24 Nov 2022Annwyl Rieni a Gwarcheidwaid,
Rydym yn falch iawn eleni o allu cynnal cyngherddau Nadolig wyneb i wyneb! Mae'r dyddiadau'r cyngherddau eisoes wedi ei rhannu gyda chi. Oherwydd niferoedd cyfyngedig o ganlyniad i asesiadau risg iechyd a diogelwch dim ond dau docyn i bob teulu y gallwn ei gynnig. Mi allwch chi ddewis unai dau docyn ar gyfer y perfformiad bore, perfformiad y prynhawn neu un tocyn i'r bore ac un tocyn i'r prynhawn. Mae'r dewis i chi. Os bydd tocynnau dros ben wedi i bawb gael cyfle i brynu dau yna mi wnawn roi gwybod i chi.
Rydym yn gofyn am £1 y tocyn.
Mi fydd y tocynnau yn mynd ar werth bore dydd Llun 28.11.22, a byddwn ond yn gallu derbyn arian parod ac mae rhaid i chi ddod i'r swyddfa i'w prynu.
Unwaith eto diolch i chi am eich cefnogaeth ac edrychwn ymlaen i'ch gweld i ddathlu'r Nadolig gyda ni.
Diolch yn fawr,
Mr M Tomos
Pennaeth
Dear Parents and Guardians,
We are very pleased this year to be able to hold face-to-face Christmas concerts! The concert dates have already been shared with you.
Due to limited numbers as a result of health and safety risk assessments we can only offer two tickets per family. You can choose either two tickets for the morning performance, the afternoon performance or one ticket for the morning and one ticket for the afternoon. The choice is yours.
If there are tickets left over after everyone has had the chance to buy two then we will let you know.
We are asking for £1 per ticket.
The tickets will go on sale on Monday morning 28.11.22, and we can only accept cash and you must come to the office to buy them in person.
Once again thank you for your support and we look forward to seeing you to celebrate Christmas with us.
Thank you very much,
Mr M Tomos
Headteacher
-
Hetiau Pom Pom / Bobble Hats
Thu 24 Nov 2022Hetiau Pom Pom Gaeaf Glan Morfa!
Rydym yn gwerthu hetiau pom pom gaeaf Glan Morfa! Pris pob het fydd £10. Os ydych am brynu un yna dewch i’r swyddfa!
Glan Morfa Winter Bobble Hats!
We are selling Glan Morfa bobble hats! The price is £10. If you would like to purchase one then please come into reception!
-
Ysgol di-gnau / Nut free school
Wed 09 Nov 2022Mae Ysgol Glan Morfa yn ysgol ddi-gnau. Mae hyn er mwyn sicrhau diogelwch ein plant ac i gefnogi anghenion y nifer o ddisgyblion sydd ag alergeddau cnau, sy'n cynnwys un alergedd sy'n peryglu bywyd. Yn dilyn cyngor meddygol, rydym wedi gwahardd pob cynnyrch cnau a chnau, gan gynnwys Nutella, yn ogystal â llawer o sbredau siocled eraill, a pesto.
Diolch am eich gwyliadwriaeth a'ch cefnogaeth. Mae iechyd a lles ein holl blant yn flaenoriaeth
Ysgol Glan Morfa is a nut-free school. This is to ensure the safety of our children and to support the needs of the several pupils who have nut allergies, which includes one life-threatening allergy. Following medical advice, we have banned all nut and nut products, including Nutella, as well as many other chocolate spreads, and pesto.
Thank you for your vigilance and support. The health and well-being of all our children is a priority.
-
Wythnos Gwrth-Fwlio / Anti Bullying Week
Tue 08 Nov 2022Annwyl Rieni a Gwarcheidwaid,
Mae Wythnos Gwrth-fwlio 2022 yn cael ei chydlynu yng Nghymru a Lloegr gan y Gynghrair Gwrth-fwlio. Fe'i cynhelir rhwng 14 a 18 Tachwedd 2022 a'r thema eleni yw Ymestyn Allan. Bydd yr wythnos yn cychwyn gyda Diwrnod Sanau Od ddydd Llun 14eg Tachwedd, lle bydd oedolion a phlant yn gwisgo sanau od i ddathlu’r hyn sy’n ein gwneud ni i gyd yn unigryw. Gofynnwn i ddisgyblion yr ysgol i wisgo sannau od ar ddydd Llun er mwyn dathlu ein gwahaniaethau!
Diolch i chi gyd,
Mr M Tomos
Pennaeth
Dear Parents and Guardians,
Anti-Bullying Week 2022 is coordinated in England and Wales by the Anti-Bullying Alliance. It will take place from 14 to 18 November 2022 and has the theme Reach Out. The week will kick off with Odd Socks Day on Monday 14th November, where adults and children wear odd socks to celebrate what makes us all unique. We therefore ask all pupils to wear odd socks on Monday to celebrate our differences!
Thank you,
Mr M Tomos
Headteacher
-
Jambori Urdd Cwpan y Byd / Urdd World Cup Jambori
Fri 04 Nov 2022Annwyl Rieni a Gwarcheidwaid,
Ar ddydd Iau, 10fed o Dachwedd mi fydd disgyblion yr ysgol yn cymryd rhan yn Jambori yr Urdd gyda miloedd o ysgolion eraill ar draws Cymru! Mi fydd croeso i'r disgyblion wisgo crysau pel-droed Cymru neu grysau coch i'r ysgol ar y diwrnod hwn i ddathlu fod Cymru yn mynd i Qatar yn hwyrach yn y mis! Mi fydd y Jambori yn rhithiol drwy Zoom!
Diolch
Mr M Tomos
Pennaeth
Dear Parents and Guardians,
On Thursday, 10th of November the school's pupils will take part in the Urdd Jambori with thousands of other schools across Wales! The pupils will be welcome to wear Welsh football shirts or red shirts to school on this day to celebrate that Wales are going to Qatar later in the month! The Jambori will be virtual via Zoom.
Thank you,
Mr M Tomos
Headteacher