Latest News
Yma fe gewch chi'r newyddion diweddaraf gyda'r hyn sy'n digwydd yn Ysgol Glan Morfa.
Keep up to date with all the latest news happening in school at the moment.
-
Arweinyddiaeth yr ysgol / School Leadership
Mon 18 Mar 2024 -
Wythnos Aml-Ddiwylliannol 2024 / Multi Cultural Week 2024
Fri 09 Feb 2024 -
Cylchlythyr 12.10.23 Newsletter
Thu 12 Oct 2023 -
Nosweithiau Cwricwlaidd / Curriculum Evenings
Tue 05 Sep 2023Annwyl Rieni a Gwarcheidwaid,
Dyma i chi dyddiadau ac amseroedd ein Nosweithiau Cwricwlaidd ar gyfer 2023-24. Gobeithio y gall gymaint ohonoch fod yn bresennol. Yn y cyfarfod byddwch yn cwrdd gydag athro eich plentyn, cael cyfle i holi cwestiynau, derbyn gwybodaeth bwysig ac ymweld â dosbarth eich plentyn.
- Ysgol Isaf (Meithrin/Derbyn) 25.9.23 @ 15:00 - 16:00
- Ysgol Ganol (Blynyddoedd 1, 2 a 3) 26.9.23 @ 15:00 - 16:00
- Ysgol Uchaf (Blynyddoedd 4,5 a 6) 27.9.23 @ 15:00 - 16:00
Pob dymuniad da,
Mr M Tomos
Pennaeth
Dear Parents and Guardians,
Here are the dates and times for our 2023-24 Curriculum Evenings. I hope that many of you can be present. During this meeting you will meet your child's new teacher, ask any question you may have, receive important information and visit your child's class.
- Lower School (Nursery & Reception) 25.9.23 @ 15:00 - 16:00
- Middle School (Years 1, 2 & 3) 26.9.23 @ 15:00 - 16:00
- Upper School (Years 4, 5 & 6) 27.9.23 @ 15:00 - 16:00
Thank you,
Mr M Tomos
Headteacher
-
Cymorth yr Haf i Deuluoedd a Chymorth Bwyd. | Summer Support for Families and Food Support
Tue 18 Jul 2023Annwyl Rieni a Gwarcheidwaid,
Yn amgaeedig mae gwybodaeth a gasglwyd gan Dimau Cyngor y Cyngor; Cymorth yr Haf i Deuluoedd a Chymorth Bwyd. Cliciwch ar y ddolen isod.
A chymorth ychwanegol a ryddhawyd yn ddiweddar gan Ganolfan Gelfyddydau Chapter Haf o Hwyl (chapter.org) dolen isod.
Diolch i chi gyd am eich cefnogaeth barhaus.
Cofion,
Mr M Tomos
Pennaeth
Dear Parents and Guardians,
Please find attached information put together by the Council’s Advice Teams; Summer Support for Families and Food Support. Click on the link below
And additional support recently released by Chapter Arts Summer of Fun (chapter.org) link below.
Thank you all for your continued support.
Mr M Tomos
Headteacher
https://www.chapter.org/news/details/summer-of-fun
-
Noson Ddiwylliannol Clwstwr Bro Edern / Bro Edern Cluster Cultural Evening
Mon 26 Jun 2023Annwyl Rieni a Gwarcheidwaid,
Hoffem eich gwahodd yn gynnes iawn i
NOSON DDIWYLLIANNOL CLWSTWR BRO EDERN
Dewch i weld y ddarpariaeth o ran addysg Gymraeg yn nwyrain Caerdydd
Nos Iau 13 Gorffennaf – unrhyw bryd rhwng 4 ac 8pm. Mynediad am ddim.
Cynhelir yn Ysgol Bro Edern, Heol Llanedeyrn, Penylan CF23 9DT
Bydd disgyblion o flynyddoedd 1-6 ein hysgol ni'n perfformio rhwng 4pm a 6pm a disgyblion Bro Edern wedi hynny.
Cyfle i grwydro’r ysgol yn hamddenol i weld …
- Perfformiadau Cerdd, Drama a Gymnasteg mewn gwahanol leoliadau o amgylch yr ysgol
- Arddangosfeydd Celf a DT - yn cynnwys gwaith TGAU a Lefel A
- Arddangosfa Fformiwla 1
- Bar a Barbeciw
- Raffl Mawreddog yr Haf
- Stondin Lyfrau Siop Cant a Mil
- Swap Siop
- Ystafell o weithgareddau Cymraeg ar gyfer plant bach
Croeso cynnes i bawb!
Mr M Tomos
Pennaeth
Dear Parents and Guardians,
We would like to invite you to the
BRO EDERN CLUSTER CULTURAL EVENING
Come and sample the Welsh-medium education provision in the east of Cardiff
Thursday evening 13 July – any time between 4 and 8pm. Free entry.
Held at Ysgol Bro Edern, Llanedeyrn Road, Penylan CF23 9DT
Pupils from our school from years 1-6 will be performing between 4pm and 6pm and Bro Edern pupils afterwards.
An opportunity to wander around the school to see …
- Music, Drama and Gymnastic performances in various locations around the school
- Art and DT exhibitions, including GCSE and A Level work
- Formula 1 display
- Bar and barbecue
- Summer Raffle
- Stall from Cant a Mil Welsh bookshop
- Uniform Swap Shop
- Welsh language activity room for small children
A warm welcome awaits you!
Mr M Tomos
Headteacher
-
Etholiadau Rhiant Lywodraethwyr / Parent Governor Elections
Thu 25 May 202325.5.23
Annwyl Rieni a Gwarcheidwaid,
Os hoffech fod yn rhiant-lywodraethwr mae angen i chi lenwi’r ffurflen ar lein (Google form drwy glicio ar y webpage link isod) erbyn dydd Gwener, 9fed o Fehefin. Ni chaiff unrhyw enwebiadau a geir ar ôl y dyddiad hwn eu derbyn.
Os ceir mwy o enwebiadau na nifer y rolau gwag sydd ar gael, cynhelir etholiad a benderfynir drwy fwyafrif syml. Byddai amserlen unrhyw etholiad fel a ganlyn:-
Dyddiad cau ar gyfer enwebiadau: Dydd Gwener 9.6.23
Cyhoeddi papurau pleidleisio (os oes angen etholiad): Dydd Gwener 16.6.22
Dychwelyd papurau pleidleisio:
Diwrnod olaf - Dydd Gwener 30.6.22
Rwy’n gobeithio y gwnewch ystyried bod yn Rhiant-lywodraethwr. Byddai’r corff llywodraethu yn croesawu eich cyfraniad at ei waith hanfodol i hyrwyddo cyrhaeddiad, lles a datblygiad holl ddisgyblion yr ysgol.
Rhowch ystyriaeth ddwys i'r peth.
Yn gywir,
Mr M Tomos
Pennaeth
Dear Parents and Guardians,
If you would like to be a parent governor you need to fill in the nomination form (online Google form by clicking on the webpage link below) by Friday, 9th of June. Any nominations received after this date will not be accepted.
If more nominations are received than there are vacancies, an election will be held which would be decided by a simple majority. The timescale for any election would be as follows:-
Closing date for nominations:
Friday 9.6.23
Issue of ballot papers (if election is required):
Friday 16.6.23
Return of ballot papers:
Deadline Friday 30.6.22
I hope that you will think about becoming a School Governor. The governing body would welcome your involvement in their essential work to promote the achievement, well-being and development of all pupils at the school.
Please think about it.
Yours sincerely,
Mr M Tomos
Headteacher
Ysgol Glan Morfa
-
Llwyddiant Celf a Chrefft yr Urdd / Urdd Arts and Craft Success
Wed 10 May 2023Annwyl Rieni a Gwarcheidwaid,
Mae’n bleser gennyf rannu gyda chi y newyddion cyffrous ein bod wedi bod yn llwyddiannus iawn yn rownd ranbarthol cystadleuaeth Celf a Chrefft yr Urdd.
Mae’n bleser gen i gyhoeddi ein bod wedi derbyn pedwar gwobr gyntaf, pump ail wobr a phump trydydd wobr yn y gystadleuaeth. Mae'r cyflawniadau hyn yn adlewyrchu ymroddiad a gwaith caled ein disgyblion.
Mae cystadleuaeth Celf a Chrefft yr Urdd yn un o gystadlaethau mwyaf mawreddog Cymru, ac rydym yn falch iawn o fod wedi gwneud ein marc eleni. Dyma’r nifer fwyaf o geisiadau o bell ffordd yr ydym erioed wedi ymgeisio ond dyma hefyd y llwyddiant mwyaf i ni ei gael yn y gystadleuaeth hon.
Rwyf am achub ar y cyfle hwn i longyfarch ein disgyblion a diolch i’r athrawon a’r holl rieni sydd wedi cefnogi ac annog y plant i gystadlu ac yn bwysicaf oll i gael hwyl, cymryd rhan a bod yn greadigol.
Unwaith eto, llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran, a diolch am eich cefnogaeth barhaus. Bydd holl waith enillwyr y wobr gyntaf yn cael ei anfon ymlaen i’r Eisteddfod Genedlaethol yn Llanymddyfri, yn barod ar gyfer rownd derfynol olaf y gystadleuaeth, dymunaf lwyddiant mawr i chi i gyd.
Dymuniadau gorau,
Mr M Tomos
Pennaeth
Dear Parents and Guardians,
I am pleased to share with you the exciting news that we have been very successful in the Urdd Arts and Craft competition regional round.
I am delighted to announce that we received four first places, five second places and five third places in the competition. These achievements reflect the dedication and hard work of our pupils.
The Urdd Arts and Craft competition is one of the most prestigious competitions in Wales, and we are delighted to have made our mark in this year's event. This is by far the most entries we have ever entered but it is also the most success that we have ever achieved in this competition.
I want to take this opportunity to congratulate our pupils and thank the teachers and all the parents who have supported and encouraged the children to compete and most importantly to have fun, take part and be creative.
Once again, congratulations to all those involved, and thank you for your continued support. All first place winners’ work will be forwarded to the National Eisteddfod in Llandovery, ready for the final stages of the competition, I wish you all great success.
Best wishes,
Mr M Tomos
Headteacher
-
Cyfarfod PTA
Thu 04 May 2023Meilir Tomos is inviting you to a scheduled Zoom meeting.
Topic: PTA Glan Morfa
Time: May 4, 2023 06:00 PM LondonJoin Zoom Meeting
https://us05web.zoom.us/j/87846981443? pwd=NVI2QkhnUEZrSHUyaWM3Tzlmemovdz09Meeting ID: 878 4698 1443
Passcode: iXqB4f -
Cyflwyno rhagor o brydau ysgol am ddim i holl blant Ysgolion cynradd Caerdydd / Further rollout of Universal Primary Free School Meals in Cardiff Schools
Thu 20 Apr 2023Cyflwyno rhagor o Brydau Ysgol Am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd yn ysgolion Caerdydd
Mae pob disgybl oed dosbarth derbyn yng Nghaerdydd wedi bod yn derbyn Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd yn llwyddiannus ers mis Medi 2022. Bydd cam nesaf y broses o gyflwyno’r cynnig yng Nghaerdydd yn golygu ei fod yn cael ei ymestyn i ddisgyblion Blwyddyn 1 o ddydd Llun 24 Ebrill. Er mwyn sicrhau nad yw disgyblion Blwyddyn 1 yn colli eu prydau ysgol am ddim, dylai teuluoedd fewngofnodi i'w cyfrif ParentPay a rhagarchebu eu prydau. Bydd y fwydlen ar gyfer yr wythnos yn dechrau ar 24 Ebrill, ar gael ar ParentPay o nos Wener.
Mae hwyluso'r lefel hon o newid ar draws pob ysgol gynradd wedi cyflwyno heriau sylweddol. Mae pob ysgol yn wahanol ac yn ogystal â materion yn ymwneud â gofod a chapasiti mewn sawl safle, rydym hefyd yn profi'r effaith o broblemau parhaus yn ymwneud â'r gadwyn gyflenwi a phwysau cyfredol y gweithlu .
Er gwaethaf yr anawsterau sylweddol hyn, mae timau'n gweithio'n galed gyda'r nod o gael darpariaeth ar waith fel y bydd prydau ysgol am ddim yn cael eu darparu i ddisgyblion Blwyddyn 2 o ddydd Llun 5 Mehefin 2023 a byddwch yn cael eich diweddaru yn unol â hynny.
Yn ogystal â’r cynllun Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd, dylai teuluoedd sy’n derbyn budd-daliadau sydd â phlant o bob oedran, barhau i gofrestru am brydau ysgol am ddim.
Further rollout of Universal Primary Free School Meals in Cardiff schools
All Reception aged pupils in Cardiff have been successfully receiving Universal Free School meals since September 2022. The next stage of the roll out in Cardiff will see the offer extended to Year 1 pupils from Monday 24th April. To ensure Year 1 pupils do not miss out on their free school meals, families should log onto their ParentPay account and pre order their meals. The menu for week commencing 24 April, will be available on ParentPay from Friday evening.
Facilitating this level of change across all primary schools has presented significant challenges. Each school is different and in addition to issues around space and capacity at many sites, we are also experiencing the impact from ongoing supply chain issues and current workforce pressures.
Despite these considerable difficulties, teams are working hard with the aim of having provision in place so that free school meals will be provided to Year 2 pupils from Monday 5th June 2023 and you will be updated accordingly.
In addition to Universal Free School Meals, families with children of all ages who receive benefits, should continue to register for a free school meal.
Diolch / Thank you