Latest News
Yma fe gewch chi'r newyddion diweddaraf gyda'r hyn sy'n digwydd yn Ysgol Glan Morfa.
Keep up to date with all the latest news happening in school at the moment.
-
Storm Eunice - Cau'r Ysgol / School Closure
Thu 17 Feb 2022Annwyl Rieni a Gwarcheidwaid,
O ystyried y rhybudd tywydd coch a gyhoeddwyd ar gyfer yfory mae'r awdurdod lleol wedi penderfynu na ddylai disgyblion a staff fynychu safloedd ysgol yfory. O ganlyniad i hyn a gwyliau hanner tymor mi fydd yr ysgol yn ail-agor ar ddydd Llun, yr 28ain o Chwefror.
Mi fydd yr athrawon yn rhoi gweithgaredd i'r plant ei wneud ar ei cyfrif Google Class neu Seesaw ar gyfer yfory.
Gobeithio y byddwch i gyd yn cadw'n ddiogel a mwynhewch yr hanner tymor.
Yn gywir,
Mr M Tomos
Pennaeth
Dear Parents and Guardians,
In light of the red weather warning issued for tomorrow, the Local Authority has decided that all pupils and staff should not attend school. As a result and with the half term holidays the school will re-open on Monday, 28th of February.
The teachers will upload an activity to their SeeSaw/Google Class account for tomorrow.
I hope you all have a nice half term break and stay safe.
Yours sincerely,
Mr M Tomos
Headteacher
-
Clwb Brecwast - Pwysig / Important - Breakfast Club
Wed 16 Feb 2022Annwyl Rieni a Gwarcheidwaid,
Os gwelwch yn dda a all pob rhiant hebrwng eich plentyn at ddrws y Clwb Brecwast trwy gerdded ar y palmant a defnyddio'r groesfan Sebra y tu allan i'r brif dderbynfa i groesi'r ffordd (gofynnwn yn garedig i chi beidio â chroesi unrhyw le arall).
Mae wedi dod i fy sylw bod rhai plant yn cael eu gollwng y tu allan i giât yr ysgol ac yn cerdded ar eu pen eu hunain ac weithiau nid ar y palmant sydd yn amlwg yn achos o bryder ac yn beryglus iawn. Mae cerbydau staff yn gyrru mewn i'r safle nes bod y brif giât yn cau am 08:15. Gofynnwn i chi ddilyn ein canllawiau fel bod eich plentyn yn cyrraedd yr ysgol yn ddiogel.
Diolch yn fawr iawn am eich cydweithrediad. Mi fyddwn yn monitro hyn yn agos dros y misoedd nesaf. Gofynnwn yn garedig i chi basio’r wybodaeth hyn i aelodau eraill o’ch teulu neu ffrindiau sydd yn dod a’ch plant i’r Clwb Brecwast.
Diolch yn fawr,
Mr M Tomos
Pennaeth
Dear Parents and Guardians,
Please can all parents accompany your child to the Breakfast Club door by walking on the pavement and using the Zebra crossing outside the main reception to cross the road (please do not cross anywhere else).
It has been brought to my attention some children are being dropped off outside the school gate and walking on their own and at times not on the pavement which is a cause for concern and extremely dangerous. Staff vehicles are entering the site until the main gate closes at 08:15. Please can you all follow this guidance to ensure your child arrives in school safely.
Thank you very much for your co-operation. We will be carefully monitoring this over the next few months. Please pass on this information to other family members or friends who drop off your child/children to our Breakfast Club.
Thank you,
Mr M Tomos
Headteacher