Latest News
Yma fe gewch chi'r newyddion diweddaraf gyda'r hyn sy'n digwydd yn Ysgol Glan Morfa.
Keep up to date with all the latest news happening in school at the moment.
-
Hanner Tymor / Half Term
Thu 21 Oct 2021 -
Darllen / Reading
Wed 20 Oct 2021Annwyl Rieni a Gwarcheidwaid,
Un o flaenoriaethau'r ysgol eleni yw codi safonau darllen ein disgyblion. O ganlyniad rydym yn gofyn i chi ein rhieni/gwarcheidwaid i'n cynorthwyo i sicrhau fod ein disgyblion yn cyrraedd eu lefel ddisgwyledig erbyn diwedd y flwyddyn.
Mae'r gallu i ddarllen yn un o sgiliau mwyaf hanfodol bywyd. Mae'n bwysig dros ben fod ein disgyblion yn darllen yn ddyddiol er mwyn iddynt ddod yn ddarllenwyr hyderus a rhugl yn Gymraeg ac yn Saesneg. Yn yr ysgol rydym yn rhoi cyfleoedd dyddiol i'r plant ymarfer eu darllen a gofynnwn yn garedig i chi sicrhau fod eich plant yn cael y cyfle i ddarllen yn ddyddiol gartref hefyd.
Er mwyn eich cynorthwyo rydym wedi buddsoddi mewn rhaglen darllen Saesneg ar-lein o'r enw "Bug Club" ac mae'r holl wybodaeth yn y llythyr sydd wedi ei atodi. Mae'r rhaglen hon ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3-6. Fe fydd yr athrawon yn rhoi diweddariad pellach i chi ar safonau/lefelau darllen eich plentyn yn ystod y noson rieni a fydd yn cael ei gynnal yn ystod mis Tachwedd yn ogystal â chyngor pellach ar sut i gefnogi eich plentyn.
Bydd "Bug Club" ar gael i'ch plentyn o amser cinio dydd Gwener yma 22.10.21 fel fod eich plentyn yn gallu ei ddefnyddio dros hanner tymor.
Diolch i chi gyd am eich cefnogaeth.
Mr M Tomos
Pennaeth
Dear Parents and Guardians,
One of the school's main priorities this year is to raise standards in the reading skills of our pupils. Therefore we are asking parents/guardians to assist us in ensuring our pupils reach their expected reading level by the end of the school year.
The ability to read is one of life's most essential skills. It is extremely important that our pupils are given opportunities to read daily so they become confident and fluent readers in English and in Welsh. At school we give the children numerous daily opportunities to practise their reading but we are asking you to support us to ensure that your child has the opportunity to read daily at home as well.
To assist our pupils, we have invested in an online English reading programme called "Bug Club" and all the information is in the attached letter. This programme is suitable for pupils in years 3-6. Our teachers will be able to give you a further update on your child's standards/reading levels and offer you guidance of how best to support your child during the parents' evening which will be held during November.
Bug Club will be available from midday on Friday 22.10.21 just in time for the pupils to use it over half term.
Thank you all for your support,
Mr M Tomos
Headteacher
-
Achos Positif Covid-19 / Positive Covid-19 Case
Wed 13 Oct 2021Annwyl Rieni a Gwarcheidwaid,
Gallwn gadarnhau fod achos positif yn nosbarth Gwenhwyfar - Dosbarth Mrs Jones (Blwyddyn 1/2). Bydd y gwasanaeth tracio, olrhain a diogelu yn cysylltu gyda chi os bydd eich plentyn yn cael ei adnabod fel cyswllt agos. Gofynnwn i chi gadw golwg agos ar eich plentyn dros y 10 diwrnod nesaf ac hysbysu'r ysgol a threfnu prawf PCR os ydy eich plentyn yn datblygu unrhyw symptomau.
Diolch i chi gyd,
Mr M Tomos
Pennaeth
Dear Parents and Guardians,
We can confirm that there is a positive case of Covid-19 in Dosbarth Gwenhwyfar - Mrs Jones class (Year 1/2). The track, trace and protect team will contact you if your child is identified as a close contact. Please keep a close eye on your child over the next 10 days and keep the school informed and arrange a PCR test if your child develops any symptoms.
Thank you,
Mr M Tomos
Headteacher
-
Cegin yr ysgol - AR GAU / School Kitchen - CLOSED
Tue 12 Oct 2021Annwyl Rieni a Gwarcheidwaid,
Yn anffodus mae ein Rheolwr Arlwyo yn parhau i fod yn absennol o'r gwaith. Nid oes gan Gyngor Caerdydd unrhywun all gamu i'r adwy am weddill yr wythnos ac o ganlyniad mae ein cegin ar gau. O ganlyniad gofynnwn i BAWB ddod a phecyn bwyd i'r ysgol yfory, dydd Iau a dydd Gwener. Mi fydd ein Clwb Brecwast yn parhau ar agor o 08:00yb. Os ydych yn gymwys am ginio ysgol am ddim mi fydd Cyngor Caerdydd yn rhoi talebau i chi. Rydym yn ymddiheuro yn fawr am hyn ac yn gweithio'n agos gyda'r Cyngor ac yn gobeithio y gallwn ail agor ar ddydd Llun 18.10.21.
Diolch yn fawr,
Mr Meilir Tomos
Pennaeth
Dear Parents / Guardians,
Unfortunately our school catering manager continues to be absent and the council do not have anybody to cover her role for the rest of the week. As a result our kitchen will be closed and we ask ALL parents for tomorrow, Thursday and Friday to provide their children with a packed lunch. Our Breakfast Club will remain open from 08:00am. If you are eligible for Free School Meals then you will receive FSM vouchers from the council. We apologise for this and hope to reopen our kitchen on Monday 18.10.21.
Thank you,
Mr Meilir Tomos
Headteacher
-
Parcio ar Ffordd Lewis / Parking on Lewis Road
Thu 07 Oct 2021Annwyl Rieni a Gwarcheidwaid,
Yn anffodus rydym wedi derbyn nifer o gwynion am barcio anghyfrifol sydd yn cymryd lle ar Ffordd Lewis. Mae ceir wedi bod yn parcio o flaen prif gat TB Davies sydd yn gwneud hi'n amhosib i'w loriau ddod mewn ac allan. Os gwelwch yn dda a fyddwch chi cystal a bod yn ystyrol wrth barcio gan sicrhau eich bod ddim yn parcio o flaen giatiau TB Davies nac unrhyw fusensau eraill sydd ar Ffordd Lewis.
Diolch i chi gyd am eich cydweithrediad.
Mr M Tomos
Pennaeth
Dear Parents and Guardians,
Unfortunately we have received a number of complaints about irresponsible parking taking place on Lewis Road. Cars have been parked in front of TB Davies' main gate which makes it impossible for their lorries to get in and out. Please could you be mindful that when parking that you do not park in front of their gates or any other of the local businesses that are on Lewis Road.
Thank you all for your co-operation.
Mr M Tomos
Headteacher
-
Diweddariad Achos Positif Covid-19 / Covid-19 Positive Case Update
Wed 06 Oct 2021Annwyl Rieni a Gwarcheidwaid,
Gallwn gadarnhau fod achos positif yn nosbarth Branwen - Dosbarth Mr Heneghan (Blwyddyn 3). Bydd y gwasanaeth tracio, olrhain a diogelu yn cysylltu gyda chi os bydd eich plentyn yn cael ei adnabod fel cyswllt agos. Gofynnwn i chi gadw golwg agos ar eich plentyn dros y 10 diwrnod nesaf ac hysbysu'r ysgol a threfnu prawf PCR os ydy eich plentyn yn datblygu unrhyw symptomau.
Diolch i chi gyd,
Mr M Tomos
Pennaeth
Dear Parents and Guardians,
We can confirm that there is a positive case of Covid-19 in Dosbarth Branwen - Mr Heneghan's class (Year 3). The track, trace and protect team will contact you if your child is identified as a close contact. Please keep a close eye on your child over the next 10 days and keep the school informed and arrange a PCR test if your child develops any symptoms.
Thank you,
Mr M Tomos
Headteacher
-
Digwyddiadau Pwysig / Important Events
Wed 06 Oct 2021Annwyl Rieni a Gwarcheidwaid,
Am y tri dydd Gwener nesaf rydym yn dathlu nifer o ddiwrnodau pwysig ysgol gyfan. Ar y diwrnodau hyn rydym yn gofyn i'n disgyblion wisgo mewn lliw neu wisg arbennig.
Dydd Gwener yma (Hydref 8fed) - Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd (plant i wisgo un rhywbeth melyn) #meddwl melyn
Dydd Gwener, Hydref 15fed - Diwrnod Shwmae / S'mae (Gwisg ysgol arferol / cit ymarfer corff)
Dydd Gwener, Hydref 22ain - Diwrnod Dangos y cerdyn coch i hiliaeth (plant i wisgo unrhywbeth coch)
Yn ogystal ar ddydd Gwener, Hydref 22ain y byddwn yn cynnal ein gwasanaeth y Cynhaeaf. Diolch i bawb sydd eisioes wedi cyfrannu i'n casgliad Banc Bwyd Caerdydd. Bydd yr holl gyfraniadau yn cael eu casglu ar y dyddiad hwn.
Diolch i chi gyd am eich cefnogaeth.
Mr M Tomos
Pennaeth
Dear Parents and Guardians,
For the next three Fridays we are celebrating three important days. On these days we ask our pupils to wear in specific colours.
Friday, October 8th (this Friday) - World Mental Health Day (we ask all pupils to wear anything yellow)
Friday, October 15th - Shwmae / Smae Day (Welsh Language Day - normal school uniform / PE Kit)
Friday, October 22nd - Show Racism the Red Card Day (Everybody to wear in Red)
Also, on Friday, October 22nd we are holding our Harvest Assembly. Thanks to all of you who has already donated towards the Cardiff Food Bank. They will be collecting the donations on this day.
Thank you for your support,
Mr M Tomos
Headteacher
-
Clybiau Tymor yr Hydref / Autumn Term Clubs
Fri 01 Oct 2021