Latest News
Yma fe gewch chi'r newyddion diweddaraf gyda'r hyn sy'n digwydd yn Ysgol Glan Morfa.
Keep up to date with all the latest news happening in school at the moment.
-
Ysgol ar Gau - Dydd Iau 1.3.18 / School Closure - Thursday 1.3.18
Wed 28 Feb 2018Annwyl Rieni,
Mae'r awdurdod lleol yn cynghori pob ysgol yng Nghaerdydd i gau yfory (Mawrth 1af) i ddisgyblion a staff. Fe fydd penderfyniad ynglyn a dydd Gwener yn cael ei wneud yn hwyrach yfory. Fe fyddwn yn cysylltu gyda chi trwy neges destun, cyfrif twitter @ysgolglanmorfa a thrwy ein gwefan. Diolch
Dear Parents,
The Local authority is advising all schools to close tomorrow (Thursay 1st of March) to both pupils and staff. A decision for Friday will be made later tomorrow. You will be contacted through the text messaging service and through the school twitter @ysgolglanmorfa and our website. Thank you
-
Holiadur Lles / Well-being Questionnaire
Tue 27 Feb 2018 -
Bathodyn yr Ysgol / School Logo
Fri 16 Feb 2018 -
Adroddiad Blynyddol 2016/17 Annual Report
Wed 14 Feb 2018 -
Y Dwymyn Goch / Scarlet Fever
Mon 12 Feb 2018Rydym ni ar hyn o bryd wedi cael sawl achos o'r Dwymyn Goch (Scarlet Fever) gydag achosion yn y Derbyn, Blwyddyn 1, Blwyddyn 3 a Blwyddyn 4.
Y prynhawn yma fe wnaethom gysylltu gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru. Maen nhw wedi derbyn nifer fawr o achosion o'r Dwymyn Goch dros Gymru gyfan yn yr wythnosau diwethaf.
Maen nhw'n cynghori rhieni i fynd a'r plant i weld y meddyg teulu ac i beidio â'u hanfon i'r ysgol hyd nes eu bod wedi bod ar dabledi gwrthfiotig am o leiaf 24awr.
Diolch am eich cydweithrediad,
Dear Parents,
We have had a few cases of the Scarlet Fever in school. Children in Reception, Year 1, Year 3 and Year 4 have so far been infected.
This afternoon I contacted Public Health Wales and they informed us that there are many cases of Scarlet Fever all over Wales.
Their advice is to take your child to the GP and to not send them into school until they have been on antibiotic medicine for at least 24 hours.
Thank you for your co-operation.
M Tomos
https://www.nhsdirect.wales.nhs.uk/encyclopaedia/s/article/scarletfever/
-
System Ar-Lein Noson Rieni / Parents Evening On-line Booking
Mon 12 Feb 2018Annwyl Rieni/Gwarcheidwaid,
Ar y 13eg & 14eg o Fawrth rydym yn eich gwahodd chi i’r ysgol i drafod cynnydd eich plentyn yn ei nosweithiau rhieni.
Eleni, rydym yn bwriadu treialu system newydd ar-lein trwy wefan yr ysgol a fydd yn eich caniatáu chi i ddewis yr apwyntiad sydd yn gyfleus i chi. Er mwyn i ni allu gwneud hyn, mae’n hanfodol bwysig eich bod yn darparu eich cyfeiriad e-bost.
Dim ond un e-bost o bob teulu y byddwn angen felly sicrhewch fod yr e-bost yr ydych yn ei ddarparu yn un sy’n cael ei ddefnyddio a’i wirio yn rheolaidd. Hefyd, a wnewch chi os gwelwch yn dda sicrhau eich bod wedi ysgrifennu eich e-bost yn hollol glir.
Hoffwn petaech yn gallu dychwelyd y bonyn isod i ni erbyn diwedd yr wythnos gan fod cryn dipyn o waith gweinyddu gennym i’w wneud cyn i’r system fynd yn fyw. Unwaith y bydd y system yn fyw fe fyddwch yn derbyn e-bost a fydd yn rhoi linc i chi i wneud eich apwyntiad.
Diolch am eich cydweithrediad,
Dear Parents/Carers,
On March 13th & 14th we are inviting you to discuss your child’s academic
progress in our parents evening.
This year, we are trialling a new on-line system through our website that will allow you to book a time slot that is suitable for you. In order for us to do this, the new booking system requires your email address.
We would only require one email per family therefore please give us an email that is checked and used regularly. Also, please can you make sure that your email is written clearly.
We would like to receive all the below slips in by this Friday if possible as we have a bit of work in setting up this new system before it goes live. Once the system is set-up you will then receive an email with a link to book your parents evening appointment.
Many thanks for your co-operation,
Meilir Tomos
Pennaeth / Headteacher
-
Wythnos Addysg Rhyw / Sex Education Week
Fri 09 Feb 2018Dyma i chi'r wybodaeth sydd wedi mynd allan ddoe am Wythnos Addysg Rhyw. Mae'r llythyron i CA2 ond mae gwybodaeth am wersi NSPCC yn addas i'r Cyfnod Sylfaen.
Here are the information that went out yesterday about Sex Education Week. The letters are for KS2 but the information from the NSPCC is applicable for the Foundation Phase.
-
Holiadur Lles 2018 / Well-being Questionnaire 2018
Wed 07 Feb 2018A fyddech cystal a chymryd ychydig funudau yn ymateb i'n holiadur lles. Diolch yn fawr.
Would you be so kind as to take a few minutes to respond to our Well-being questionnaire. Thank you
-
Canllawiau E-Ddiogelwch / E-Safety Guidelines
Tue 06 Feb 2018 -
Swydd Cymhorthydd Dosbarth
Thu 01 Feb 2018https://www.eteach.com/job.aspx?vacno=818457
Ysgol Glan Morfa
22 Stryd Hinton
Y sblot
Caerdydd
CF24 2LZ
Swydd: Cynorthwyydd dosbarth Cyfnod Sylfaen
Cyf: ED50250389
Gradd: Gradd 3 Pwynt 11 - 16 (£15,807 - £17,419 pro rata)
Swydd parhaol i gychwyn yn Ebrill 2018
Mae’r cyflog yn rhan o strwythur Statws Sengl a graddio’r Cyngor ac mae wedi’i chynyddu gan yr ychwanegiad Cyflog Byw. Caiff yr ychwanegiad Cyflog Byw ei adolygu yn Ebrill 2018 ac wedi hynny yn flynyddol bob mis Ebrill.
Gwahoddir ceisiadau ar gyfer y swydd hon gan gymhorthyddion brwdfrydig ac ymroddgar ar gyfer swydd cynorthwyydd dosbarth.
Mae Ysgol Glan Morfa yn ysgol lwyddiannus a chymunedol yn Nwyrain Caerdydd gyda 232 o ddisgyblion ar y gofrestr. Mae hon yn flwyddyn gyffrous yn hanes yr ysgol gan ein bod yn mis Medi 2018 yn symud i adeilad newydd sbon yn Ffordd Lewis, Sblot.
Dros y blynyddoedd nesaf fe fydd niferoedd yr ysgol yn dyblu i o gwmpas 420 o ddisgyblion. Dymuna’r llywodraethwyr apwyntio rhywun ysbrydoledig, brwdfrydig ac uchelgeisiol i ymuno a staff yr ysgol.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio gyda disgyblion yn y Cyfnod Sylfaen ac fel rhan o dîm staff ymroddgar yr ysgol. Fe fyddant yn cyfrannu tuag at gynllunio, trefnu a rheoli adnoddau ac yn gweithio gydag unigolion a grwpiau o blant o dan arweiniad. Bydd disgwyl iddynt rannu cyfrifoldeb a gofalaeth am blant yn ystod amser egwyl a chinio.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus gyfrannu at brofiadau helaeth addysgol, diwylliannol ac allgyrsiol y disgyblion.
Bydd yr ysgol yn darparu hyfforddiant ar gyfer datblygiad proffesiynol.
Mae’r swydd yn amser tymor yn unig sef 32.5 awr yr wythnos.
O dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, bydd angen i bob Gweithiwr Cymorth Dysgu Ysgolion gael ei gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg (EWC).
Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae’r swydd wag hon yn addas i’w rhannu.
Am fwy o fanylion neu ymweliad cysylltwch â’r Pennaeth Mr Meilir Tomos - Ffôn: 02920 483663 / E-bost: meilir.tomos@cardiff.gov.uk
Cysylltwch â Chysylltu â Chaerdydd (C2C) ar 02920 872088 neu e-bostiwch Caerdydd ar Waith swyddi@caerdydd.gov.uk am becyn cais gan ddyfynnu: ED50250389 a theitl y swydd.
Dylech ddychwelyd ffurflenni cais wedi’u cwblhau i’r ysgol erbyn y dyddiad cau.
Dyddiad cau: 16 Chwefror 2018 (12pm)
Mae diogelu ac amddiffyn plant yn flaenoriaethau pwysig i’r Cyngor. Ein nod yw helpu plant ac oedolion sy’n agored i niwed i sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion yn ymrwymedig i sicrhau diogelwch plant ac amddiffyn plant ac oedolion sy’n agored i niwed, a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu lles, gan gydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.