Skip to content ↓
  • Arwyr Eco

    Nod Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang (ADCDFE) yw sicrhau bod dysgwyr o bob oedran yn deall effaith eu dewisiadau ar bobl eraill, yr economi a’r amgylchedd.

    Bwriad Ysgol Glan Morfa yw i herio dysgwyr i weld sut y gallant gyfrannu at fywydau pobl eraill. Mae'n   cael ei gynnwys o fewn pynciau amrywiol iawn a hefyd yn cael ei hybu gan y Cyngor Eco hwn.

    Mae saith thema ynghlwm wrth Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang, sef:

    • yr amgylchedd naturiol
    • defnydd a gwastraff
    • newid yn yr hinsawdd
    • cyfoeth a thlodi
    • hunaniaeth a diwylliant
    • dewisiadau a phenderfyniadau
    • iechyd.

    Arwyr Eco 2025-26