Clybiau Allgyrsiol
Clybiau Allgyrsiol
Yn ein hysgol, credwn fod dysgu’n ymestyn ymhell y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth. Mae ein hamrywiaeth o glybiau allgyrsiol yn rhoi cyfle i ddisgyblion archwilio diddordebau newydd, datblygu sgiliau, meithrin cyfeillgarwch ac ennill hyder. Boed hynny’n chwaraeon, cerddoriaeth, celf, ieithoedd neu weithgareddau lles – mae rhywbeth at ddant pawb.
Cynhelir y clybiau dros amser cinio neu ar ôl ysgol, gan roi cyfleoedd hyblyg i bawb gymryd rhan. Mae’r clybiau hyn yn rhan werthfawr o fywyd yr ysgol ac yn cyfrannu’n fawr at ddatblygiad personol a lles disgyblion.