System Ar-Lein Noson Rieni / Parents Evening On-line Booking
Annwyl Rieni/Gwarcheidwaid,
Ar y 13eg & 14eg o Fawrth rydym yn eich gwahodd chi i’r ysgol i drafod cynnydd eich plentyn yn ei nosweithiau rhieni.
Eleni, rydym yn bwriadu treialu system newydd ar-lein trwy wefan yr ysgol a fydd yn eich caniatáu chi i ddewis yr apwyntiad sydd yn gyfleus i chi. Er mwyn i ni allu gwneud hyn, mae’n hanfodol bwysig eich bod yn darparu eich cyfeiriad e-bost.
Dim ond un e-bost o bob teulu y byddwn angen felly sicrhewch fod yr e-bost yr ydych yn ei ddarparu yn un sy’n cael ei ddefnyddio a’i wirio yn rheolaidd. Hefyd, a wnewch chi os gwelwch yn dda sicrhau eich bod wedi ysgrifennu eich e-bost yn hollol glir.
Hoffwn petaech yn gallu dychwelyd y bonyn isod i ni erbyn diwedd yr wythnos gan fod cryn dipyn o waith gweinyddu gennym i’w wneud cyn i’r system fynd yn fyw. Unwaith y bydd y system yn fyw fe fyddwch yn derbyn e-bost a fydd yn rhoi linc i chi i wneud eich apwyntiad.
Diolch am eich cydweithrediad,
Dear Parents/Carers,
On March 13th & 14th we are inviting you to discuss your child’s academic
progress in our parents evening.
This year, we are trialling a new on-line system through our website that will allow you to book a time slot that is suitable for you. In order for us to do this, the new booking system requires your email address.
We would only require one email per family therefore please give us an email that is checked and used regularly. Also, please can you make sure that your email is written clearly.
We would like to receive all the below slips in by this Friday if possible as we have a bit of work in setting up this new system before it goes live. Once the system is set-up you will then receive an email with a link to book your parents evening appointment.
Many thanks for your co-operation,
Meilir Tomos
Pennaeth / Headteacher