Cyngherddau Nadolig / Christmas Concerts
Diolch i chi gyd am gefnogi ein cyngherddau Nadolig dros y pythefnos diwethaf. Braf gweld cymaint ohonoch yn cefnogi ac roedd y plant i gyd wedi perfformio yn wych!
Hoffwn ddiolch i'r plant a staff am eu gwaith yn dysgu'r holl eiriau a chaneuon. Hoffwn hefyd ddiolch i chi gyd am eich cyfraniadau caredig tuag at yr Uned Dialysis yn Ysbyty Plant Cymru. Mae Dominic a'i deulu wedi cael gofal arbennig yno dros y misoedd diwethaf a roeddem yn falch iawn o'i weld yn bresennol yn y cyngherddau. Edrychwn ymlaen at ei gael yn ôl yn yr ysgol yn nhymor y Gwanwyn. Hoffwn i ar ran holl staff Glan Morfa ddymuno i chi gyd Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda.
Many thanks to you all for supporting our Christmas concerts over the last few weeks. It was fantastic to see so many of you present and the children were outstanding!
I would like to thank the children and the staff for their work. I would also like to thank all of you for your kind donations towards the Dialysis Unit at the Children's Hospital of Wales. Dominic and his family have received tremendous care over the last few months and we were so happy to see him in attendance. We look forward to seeing him back in school next term. I would like to wish you all a Happy Christmas and a wonderful New Year.
Diolch yn fawr,
MT