Gwybodaeth / Information
Annwyl Rieni / Gwarcheidwad,
Mae’r tymor hwn yn prysur fynd a dyma gyfle i roi gwybodaeth bwysig i chi am bethau rhwng nawr a diwedd y tymor.
Ffair Nadolig – bydd ein Ffair Nadolig yn cael ei gynnal brynhawn yfory rhwng 2:45-4.30 yn Neuadd yr Ysgol. Dewch yn llu i gefnogi’r ysgol a diolch i’r Cyngor Rhieni am drefnu.
Clwb Brecwast – Mae’r clwb brecwast rhad ac am ddim ar agor i bob disgybl o 8.00 – 8:30y.b. Fodd bynnag, gofynnwn i chi sicrhau fod eich plentyn yn cyrraedd y clwb cyn 08:25 fel eu bod yn cael digon o amser i gael brecwast. Yn ogystal rydym wedi sylwi fod ambell blentyn yn cyrraedd heb riant/goruchwyliwr cyn 08:00. Mae’n bwysig nodi mai cyfrifoldeb y rhieni yw’r plant cyn i ddrysau’r Clwb agor am 08:00.
Bwyta’n Iach – Hoffwn eich atgoffa o bolisi’r ysgol sef dŵr a ffrwyth yn unig. Mae’r Cyfnod Sylfaen yn rhoi ffrwyth i’r plant yn ddyddiol am gost o £1.50 yr wythnos. Ni does angen byrbryd ychwanegol ar eu cyfer. Rydym hefyd yn eich annog i sicrhau fod bocsys bwyd eich plentyn yn rhai iachusol ac yn rhai sydd heb ormod o fwyd. Yn y flwyddyn newydd byddwn yn cynnal gweithdy ar focsys bwyd iach.
Apêl Ddigartref 2017 – Rydym yn casglu ar gyfer y digartref yng Nghaerdydd. Os oes gennych sanau, menig, hetiau neu nwyddau cawod/arogl da fe fyddwn ddiolchgar dros ben. Y dyddiad cau fydd 21.12.17.
HMS – Cofiwch NI FYDD ysgol i’r disgyblion ar ddydd Gwener, Rhagfyr yr 8fed oherwydd diwrnod hyfforddiant i’r staff.
Diwrnod Siwmperi Nadolig & Cinio Nadolig – Ar 21.12.17 bydd croeso i bawb wisgo siwmperi Nadolig i’r ysgol. Fe fyddwn yn gofyn i bawb am gyfraniad o £2 a fydd yn mynd tuag at Ysbyty Plant Cymru er mwyn cynorthwyo plant a’u teuluoedd dros y Nadolig. Ar y diwrnod yma hefyd byddwn yn cael ein cinio Nadolig.
Cyngerdd Nadolig Meithrin – Ar 14.12.17 am 09:30 yn Neuadd yr Ysgol.
Cyngerdd Nadolig y Cyfnod Sylfaen – Ar 12 & 13.12.17 am 09:30 yn Neuadd yr Ysgol.
Cyngerdd Nadolig yr Adran Iau – Ar 19.12.17 yn Eglwys St. Albans, Sblot am 18:00.
Diwrnod Olaf 22.12.17 – Bydd croeso i’r plant ddod a gemau bwrdd i’r ysgol ar y diwrnod hwn.
Dear Parents,
Christmas is fast approaching and is a busy time of year. So here are few reminders;
Christmas Fayre – Our Christmas Fayre is tomorrow 1.12.17 between 15:00 – 17:00 in the school hall. Come and enjoy and support the school. I would like to thank the Parent Council for organising.
Breakfast Club – The Free breakfast club is open for all children from 08.00 – 08:30. However, it is important for your child to be present before 08:25 in order for them to have plenty of time to have their breakfast. It has also come to our attention that some children are arriving alone before 08:00. It is important to note that before the door opens at 08:00 the children are the parents’ responsibility and they need to be supervised.
Healthy eating. – At the start of the new school year I would like to remind you that we only allow water and fruit in school. The Foundation Phase classes provide fruit daily for a fee of £1.50 per week therefore no other snack is required. We also ask you to ensure that your child’s lunch boxes are healthy and that they do not contain too much food. In the New Year we will hold a healthy lunchbox workshop.
Homeless Appeal 2017 – We are collecting items for the homeless in Cardiff. If you have any socks, warm hats, gloves or any toiletries then we would really appreciate them. The closing date is 21.12.17. Thank you.
INSET – Please remember that there is NO school on Friday the 8th of December as this is the staff training day.
Christmas Lunch and Jumper Day – On 21.12.17 everybody can wear a Christmas Jumper to school. We are asking everybody for a donation of £2 which will go towards the Children’s Hospital of Wales to assist the children and families over Christmas. On this day it also will be the School Christmas Dinner.
Nursery Christmas Concert – On 14.12.17 @09:30 in the School Hall.
Foundation Phase Christmas Concert – On 12 & 13.12.17 @09:30 in the School Hall.
Key Stage 2 Christmas Concert – On 19.12.17 @18:00 in St Albans Church, Splott.
Last Day 22.12.17 – Children can bring board games into school on this final day.
Diolch yn fawr / Thank you,
Meilir Tomos
Pennaeth / Headteacher