Pleser i mi yw cyhoeddi ein bod wedi derbyn y Wobr Efydd Siarter Iaith.
Hoffwn ddiolch yn arbennig i Mrs Lloyd a'r Cewri Cymreictod (Pwyllgor Iaith) am arwain y Siarter mor arbennig dros y misoedd diwethaf. Hoffwn hefyd dalu teyrnged i holl staff yr ysgol am eu gwaith o hyrwyddo'r Siarter yn yr ysgol.
Yn ogystal, hoffwn ddiolch i chi'r rhieni, gofalwyr a llywodraethwyr am gefnogi'r Siarter Iaith drwy fynychu'r bore coffi i'r lansiad a thrwy annog eich plant i siarad Cymraeg tu hwnt i furiau'r ysgol. Diolch hefyd am hyrwyddo rhaglenni a cherddoriaeth Gymraeg.
Fe fyddwn yn mynychu seremoni gwobrwyo yn Nhŷ Dysgu, Nantgarw ar Chwefror 26ain.
Diolch yn fawr,
Mr Tomos
It is a pleasure to announce that we have been awarded the Bronze Award for the Welsh Language Charter.
I would like to thank in particular Mrs Lloyd and the Welsh Giants (language Committee) for leading the Charter over the last few months. I would also like to pay tribute to all the school staff for their work in promoting the Charter.
In addition, I would like to thank you the parents, carers and governors for supporting the Charter by attending the launch coffee morning and by promoting the use of the Welsh language beyond the school walls. Thank you also for encouraging them to watch and listen to Welsh language television programmes and Welsh language music.
We will be attending an award ceremony at Ty Dysgu, Nantgarw on February 26th.
Diolch yn fawr,
Mr Tomos